Photo of The Old Cross pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

33 The Old Cross Inn

Dyddiad

1894

Cyfeiriad

783 Heol Casnewydd, Tredelerch, Caerdydd CF3 4AJ

Download site boundary plan.

Ward

Llanrhymni

Hanes

Mae gan yr Old Cross Inn ei wreiddiau mewn Tŷ Cwrw a adeiladwyd cyn 1869.

Bu adeilad ar y safle ers o leiaf 1811 (gweler map Budgen). Dangosir yr eiddo yn gliriach ar Fap Degwm 1846, gan wynebu’r ffordd a chyda chwrtil mawr i’r cefn.

Mae map cyntaf yr AO o 1886 (a arolygwyd rhwng 1875 a 1881) yn dangos yr eiddo sydd wedi’i labelu’n ‘Smithy’, gydag estyniadau bach i’r dwyrain a’r gorllewin, a gardd o fewn y cwrtil cefn.

Ym 1894, y perchennog/meddiannydd oedd Thomas Morgan, ac roedd yr eiddo’n cael ei ddisgrifio fel ‘tŷ, gweithdy [gefail?] a gardd’ (gweler y dosraniad degwm).

Mae ffotograff o 1896 yn dangos yr adeilad(au) am y tro cyntaf. Mae’r prif dŷ yn fwthyn deulawr â thri bae gyda tho gwellt. Ceir ail adeilad domestig deulawr llai â tri bae a sied arall (yr efail) yn ei ben gorllewinol, ac estyniad penty unllawr yn y dwyrain (gyda phob un â tho llechi).

Ym mis Mawrth 1903, adroddodd The Evening Express fod cynlluniau ar gyfer ‘addasiadau adeileddol’ i’r Cross Inn (ar gost o £1,200) wedi’u rhoi gerbron Llys Heddlu Sir Casnewydd:

“Rhoddwyd hysbysiad o wneud cais am estyniad i’r drwydded o drwydded gwrw i drwydded lawn, ond cafodd hynny ei dynnu’n ôl, a dim ond y caniatâd am newidiadau adeileddol y gwnaed cais amdano.

Gofynnodd yr Henadur Grove i’r Uwch-arolygydd Porter nad oedd yn ffaith fod rhaid anfon heddweision ychwanegol i Dredelerech bob dydd Sul i ymdrin â’r torfeydd sy’n heidio yno o Gaerdydd

Dywedodd yr Uwcharolygydd Porter fod rhaid anfon dau neu dri heddwas ychwanegol bob dydd Sul, gan ddibynnu ar y tywydd, a mwy yn yr haf nag yn y gaeaf.

Y Cadeirydd: A yw hynny oherwydd y Ddeddf Cau Tafarnau ar y Sul?

Yr Uwch-arolygydd Porter: Ydy. Cyn belled ag yr oedd gofynion yr ardal yn y cwestiwn, nid oedd angen y tŷ o gwbl, gan fod digon o lety yn y tri thŷ yno, y mae dau ohonynt wedi’u trwyddedu’n llawn. Roedd y torfeydd oedd yn dod o Gaerdydd bob dydd Sul yn bla i sir Fynwy. Ni fyddai angen y tŷ hwn heblaw am fasnachu ar y Sul.

Yr Henadur Goldsworthy: Pe bai’n drwydded chwe diwrnod, ni fyddai ei eisiau o gwbl?

Yr Uwch-arolygydd Porter: Ni fyddai.

Y Cadeirydd: Ond a fyddai’r bobl yn derbyn trwyddedau chwe diwrnod?

Yr Uwch-arolygydd Porter: Byddai hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar y fainc.

Penderfynodd y Fainc, ar ôl ymddeol, beidio â chymeradwyo’r cynlluniau.’

Cyflwynwyd cynlluniau pellach ar gyfer ‘ailadeiladu’ (ar gost o £600) ym mis Ebrill yr un flwyddyn (1903). Disgrifiwyd y Cross Inn fel Tŷ Cwrw cyn 1869 gyda ‘… tŷ gwellt mewn cyflwr adfeiliedig… afiach ac mae’r llety byw yn annigonol.” Cymeradwywyd y cynigion, ar yr amod ‘… nad oedd yr ystafelloedd lan lofft yn cael eu defnyddio at ddibenion yfed ac nad oedd yr ardal a oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer gwerthu diodydd yn cael ei chynyddu’.

Mae ffotograffau o ddechrau’r 20fed ganrif yn dangos y sefydliad a ailadeiladwyd (neu a newidiwyd yn sylweddol) – gyda’i ffenestr ddormer flaen fawr a’i ffenestr oriel. Fodd bynnag, roedd yr hen efail yn dal i fod ynghlwm wrth y gorllewin (wedi’i hanodi ar fap 1916 yr AO), gydag estyniad to unllawr i’r dwyrain.

O dan berchnogaeth SA Brain & Co. Ltd erbyn 1916.

Estynnwyd yr eiddo yn sylweddol i’r dwyrain (a chollodd yr efail) rywbryd rhwng 1938 a 1968.

Disgrifiad

Mae prif ran flaen yr adeilad yn wynebu’r de-ddwyrain, i Heol Casnewydd, gydag adain berpendicwlar yn ymwthio i’r cefn. Mae trydedd adain yn ymwthio o hon i’r de-orllewin, i ffurfio cynllun dwy res rhannol grisiog gyda’r tu blaen. Mae’r holl adeiniau’n cynnwys dau lawr, er eu bod yn mynd yn is fesul un. Mae gwedd flaen prif ran yr adeilad (a’r hynaf) yn cynnwys tri bae, gyda blaen talcen ar yr ochr chwith. Ffenestri teiran â myliynau carreg gyda ffenestri adeiniog â fframiau metel (?) i’r llawr gwaelod. Mae’r brif fynedfa wedi’i gosod i’r chwith a’i hamgylchynu gan architraf carreg wedi’i fowldio’n ddwfn gyda blociau deiliog. Mae gan y drws ddyluniad pren cain, wedi’i ffurfio mewn coed derw gyda phaneli lliain plyg gan ddefnyddio pren cain, wedi’i ffurfio mewn derw gyda phaneli lliain, ffenestri linter geometrig a gosodion aloi copr. Mae gan y llawr cyntaf ffenestr oriel i’r talcen (uPVC bellach), a dwy ffenestr ddormer wedi’u hadeiladu o garreg yn codi o’r wedd i dorri trwy linell y bondo, gyda phedimentau hanner crwn uwchben (hefyd gyda ffenestri uPVC). Bondo dwfn bargodol i’r to llechi ar oleddf, gyda pharapet i’r talcen blaen. Cyrn simneiau wedi’u rendro. Mae ychwanegiadau unllawr diweddarach i’r cefn.

I’r dde o’r brif adain, mae adain unllawr dwy res hir hefyd yn wynebu’r ffordd. Mae ganddi 2 ffenestr garreg deiran, trydedd ffenestr fach a dau ddrws (un wedi’i flocio) i gyd gyda’r fframiau cydweddog. To llechi ar oleddf sydd iddi, gyda dau dalcen amlwg i’r tu blaen (gyda fentiau croesffurf).

Mae’r cyfan wedi’i orffen mewn rendrad plastr garw paentiedig.

Rheswm

Bu tafarn ar y safle hwn ers o leiaf 1869. Er bod maint yr ail-lunio’n aneglur, mae’r adeilad presennol yn sicr wedi bod ar y safle ers 1903: Gwerth Hanesyddol. Mae 120 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol iddo.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

DCONC/6/33a-h

Cross Inn, Tredelerch.

1942-1952

Cynlluniau posib

DSA/6/948

The Cross Inn, Tredelerch, Caerdydd.

12 Ebrill 1932

Arwerthwr: Coggins & Co., 21/23 Heol Charles, Caerdydd

Perchennog:  Ystâd Catherine Thomas ymadawedig. [Gweler DSA/10/13 Eitem 1415]

1 eitem.

1 cynllun (lliw).

Nodyn yn cadarnhau ‘Sold to Mr. Rees the occupier for £3,475’.

1 papur gyda’r cynllun wedi’i fewnosod

DSA/12/2909

Cross Inn, Tredelerch (Sir Fynwy) ger Caerdydd

1916-1918

Atgyweiriadau.

(S A Brain & Co Ltd.) 1/F.

Gohebiaeth 18 Rhagfyr 1916-17 Mai 1918.

Copi o gyfamod atgyweirio ac addurno.

Atodlen atgyweiriadau o dan delerau prydles 2 Tachwedd 1903 a baratowyd gan Sidney Williams, pensaer ym mis Rhagfyr 1916 gyda chopi wedi’i deipio

Delweddau ychwanego

undated archive photo showing the Old Cross Inn pub Cardiff

Ffotograff 1896 o’r adeilad ar safle’r Old Cross Inn

undated archive photo showing the Old Cross Inn pub Cardiff

c.1960 photo of Ye Cross Inn  (Francis Frith )

Lleoliad

Dweud eich dweud