
Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
32 Old CottageDyddiad
Tarddu o 1811Ward
Llys-faen a DdraenenHanes
Efallai bod yr adeilad gwreiddiol i’w weld mor gynnar â map Thomas Budgen ym 1811.
Gellir olrhain tarddiad cynharaf a gadarnhawyd o’r Old Cottage i fap degwm 1846, lle mae’n cael ei ddangos fel Tyddyn (wedi’i amgylchynu gan dir âr). Mae dosraniad atodol mis Ionawr 1903 yn dangos bod y safle’n eiddo i’r Parchedig Benjamin Jones ac yn cael ei feddiannu ganddo.
Mae map cyntaf yr AO o 1875 yn dangos bod yr adeilad wedi’i estyn a’i enwi’n ‘Velindre Cottage’.
Mae’n ymddangos bod map 1915 yr AO yn dangos bod yr adeilad wedi’i rannu’n glir yn ei hanner, gyda bythynnod newydd eraill wedi’u hadeiladu i’r dwyrain (ym 1909).
Mae mwy o ddatblygiad graddfa fach i’r gorllewin erbyn 1940.
Nid yw’n glir pryd y cafodd yr adeilad ei droi’n dafarndy; yn ôl pob tebyg yn y cyfnod wedi’r rhyfel oedd hyn pan gafodd cefn yr adeilad ei ddatblygu’n sylweddol.
Disgrifiad
Saif yr adeilad i ffwrdd o’r heol o fewn llain helaeth, wedi’i amgylchynu gan goed aeddfed – gweddillion olaf ei leoliad âr. Yn y cefn mae maes parcio mawr.
Mae prif ran (a’r hynaf) yr adeilad deulawr hwn yn wynebu’r de-orllewin, gan ymestyn o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain. Mae ochr dde’r brif wedd – wedi’i gwneud o garreg rwbel ar hap wedi’i phaentio – yn cael ei awgrymu gan RCAHMW i fod yn hen adeilad allanol. Mae’n debyg mai’r rhan wedi’i rendro ar yr ochr chwith yw’r bwthyn gwreiddiol gydag estyniad diweddarach sylweddol, a adeiladwyd cyn 1875. Mae dosbarthiad anghymesur o ffenestri aml-gwarel bach ar draws y tu blaen – ffenestri pren modern yn ôl pob tebyg. Uwchben y cyfan mae to llechi ar oleddf gyda chyrn simneiau brics coch.
Yn y cefn mae estyniadau helaeth â thoeau ar oleddf a adeiladwyd tua diwedd yr 20fed ganrif.
Rheswm
Mae’r adeilad presennol wedi ymgorffori bwthyn o’r 18fed ganrif/dechrau’r 19eg ganrif o darddiad anhysbys. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Er nad yw oedran y tafarndy’n hysbys ar hyn o bryd, mae ganddo werth cymunedol.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
RDC/S/2/1909/62
2 Fwthyn, ger bwthyn Felindre, Llanisien
1909 – Pensaer: Anhysbys. Datblygwr: Mr W Williams
1 gynllun gan gynnwys gweddluniau.
Delweddau ychwanego

Map 1875 yr AO