Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
30 Nine GiantsDyddiad
Adeilad o 1895 – mae'n debyg iddo gael ei droi'n dafarn wedi'r rhyfelWard
RhiwbeinaHanes
Mae’n ymddangos bod y Nine Giants wedi dechrau bywyd fel tŷ preifat, a adeiladwyd ym 1895. Ac yntau o’r enw ‘The Lawn’ yn wreiddiol, roedd yn gartref teuluol a oedd yn eiddo i Ivor J. Roberts Ysw ac ar brydles am gyfnod o 94 mlynedd am £15 y flwyddyn. Roedd yn cynnwys ‘un erw a hanner o dir addurnol, perllannau ac ati… ynghyd ag ystafell wydr, stablau ac adeiladau atodol eraill’. Gwerthwyd yr eiddo mewn arwerthiant ym 1899 i frawd y gwerthwr, Alfred Roberts, am y swm o £2,100.
Roedd enw’r eiddo wedi newid i ‘Lissadrone’ ychydig cyn ei werthu ym mis Mehefin 1910 (roedd yn dal i gael ei alw’n ‘The Lawn’ ym mis Ionawr 1910 a ‘Lissadrone’ ym mis Hydref yr un flwyddyn).
Ym 1924, cafodd “Lissadrone‘ ei werthu eto i Frank O. Cory Ysw a gwnaed ‘newidiadau ac ychwanegiadau’ i’r un eiddo ym 1927 yn ôl dyluniadau’r Pensaer, Richards & McClean.
Mae’n ymddangos nad oedd y defnydd terfynol a fwriadwyd ar gyfer yr adeilad yn glir – nodwyd y ‘math o adeilad’ fel ‘annosbarthedig’ yn unig.
Daeth yr adeilad yn dafarn rhywbryd ar ôl arolwg map yr AO ym 1948.
Disgrifiad
Ymddengys fod y rhan wreiddiol o’r adeilad (‘Lissadrone’) wedi cynnwys rhan ddwyreiniol y brif adain ddeulawr o’r dwyrain i’r gorllewin gyda thu blaen dau dalcen (deheuol) a manylion fframiau pren Tuduraidd ffug. Estynnwyd hon yn ddiweddarach ar ffurf ddeulawr i’r gorllewin, gydag orendy mawr i’r tu blaen. Mae ychwanegiad unllawr arall â tho ar oleddf yn y gorllewin.
Yn y cefn, ychwanegiadau deulawr â tho ar oleddf ac estyniadau unllawr eraill yn ymestyn i’r hen iard wasanaeth yn y cefn.
Mae’r cyfan wedi’i osod i ffwrdd o’r heol o fewn tiroedd helaeth o hyd, gyda choed aeddfed ar bob ochr. Yn y tu blaen, mae lawnt isel gyda grisiau wedi’u halinio i’r fynedfa flaen. Yn y gorllewin, mae maes parcio mawr.
Rheswm
Tafarn fawr, gymharol fodern o fewn tiroedd helaeth a ddatblygodd o adeilad â hanes cymharol hir a diddorol o bosibl. Gwerth Esthetig, Hanesyddol a Chymunedol.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
DSA/12/2019
Lissadrone, 52 Heol Ninian, Parc y Rhath, 6 a 7 Heol Windsor a 101 Heol y Bont-faen, oll yng Nghaerdydd
1910
Gwerthiant. Hysbysiad o werthiant trwy arwerthiant, 6 Hydref 1910. [Gweler hefyd Llyfr Gwerthu 21 (cyf. DSA/8/21) f.83]
DSA/12/2024
The Lawnt (Lissadrone), Heol Caerffili, Llanisien
1910-1911
Gwerthiant. Gyda nodyn am fenthyca’r manylion ym 1934.
‘Gweler hefyd ffeil 1913’ [DSA/12/1913].
(D.T. Alexander fel ail forgeisai a gwarantwr). 5/1.
Rhan o glawr ffeil.
Gohebiaeth 17 Chwef 1910-8 Gorff 1911 (hefyd nodyn ynglŷn â benthyca a dychwelyd y manylion gan y Capten Bailey ym 1934).
1. Manylion ac amodau gwerthu ynghyd â’r cynllun ar gyfer arwerthiant 16 Mehefin 1910, gyda ffotograff. Wedi’i farcio’n ‘D.T.A. Private’ gyda nodiadau ac arsylwadau wedi’u hychwanegu mewn inc coch.
2. Manylion gwarant D.T.A.
3. Copi o gyfrif Merrils Ede 1907-1910 gyda nodiadau ynghlwm.
4. Nodiadau ynglŷn â thaliadau a wnaed gan Mr Allen.
5. Ffotograff o’r eiddo gyda’r un tu blaen ag a ddefnyddiwyd yn y manylion, ond o bwynt gwahanol.
Merrils Ede, 111 Heol Eglwys Fair, Caerdydd.
[Gweler hefyd Llyfr Gwerthu 21 (cyf. DSA/8/21) f.67]
DSA/12/4151
Lissadrone, Llanisien.
1924
Gwerthu i Ymddiriedolwyr Frank Cory.
(Arthur H. Callaghan.) E/5.
Rhan o glawr ffeil.
Gohebiaeth 13 Awst-29 Medi 1924.
1 ffeil
RDC/S/2/1927/180
Newidiadau ac Ychwanegiadau, Liss-Adrone, Heol Caerffili, Llanisien
1927 – Pensaer: Richards & McClean – Datblygwr: Frank O Cory Ysw
Math o Adeilad: Heb ei ddosbarthu eto. Cynlluniau a gweddluniau
DSA/20/221
Adolygiad XXXVII.14 (37.14) o 1940.
Tir Murray Threipland yn Llanishen Fach a Llyssadrone wedi’i ymylu’n las, Graig Farm (Wride) brown, tir ystâd Tredegar mewn oren a thir Phillip Jones mewn gwyrdd; gyda’r tir glas ac oren yn ymestyn i XLIII.2 [nid yn DSA/20].