Photo of The New Inn pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

29 New Inn

Dyddiad

Tafarn ar y safle ers 1886 ond wedi'i newid/ei hailadeiladu yng nghanol yr 20fed ganrif

Cyfeiriad

67 Heol Caerffili, CF14 4AE

Download site boundary plan.

Ward

Y Mynydd Bychan

Hanes

Ceir yr arwydd cyntaf bod tafarn ar y safle hwn ar fap 1886 yr AO (diwygiwyd 1875-1881) sy’n dangos y ‘New Inn’; fodd bynnag, cafodd ei hailadeiladu tua 1930 ar gyfer y datblygwr G. Beames.1

Gwnaed addasiadau pellach ym 1934 gan y pensaer T.E. Llewellyn (ar gyfer yr un datblygwr) ac eto ym 1950 gan y pensaer J. H. Thraves, pan oedd o dan berchnogaeth Ansell’s Brewery y tro hwn. Ychwanegwyd siop drwyddedig ym 1953, yn ôl dyluniadau’r pensaer D. A. G. William.

 

1 Pe bai’r un George Beames a adeiladodd Westy’r Albany, Gwesty’r Coporation ac Eglwys Fethodistaidd Trelái hefyd oedd hwn, byddai wedi bod yn 75 oed erbyn yr adeg hon. Efallai ei fab, a elwid hefyd yn George.

Disgrifiad

Adeilad deulawr sylweddol o gynllun rhes ddwbl nad yw’n rhoi fawr o ystyriaeth i’w safle cornel amlwg. Mae gan y tu blaen gorneli ffasedog ac mae’r adain gefn yn hirach, gan ffurfio adenydd hydredol byr sy’n ymwthio i’r ddwy ochr.

Mae’r wedd flaen (ddwyreiniol) yn cynnwys 5 bae cymesur. Mae’r fynedfa wedi’i gosod o fewn agoriad llydan 3 bae gydag uPVC modern a mewnlenwad gwydriad, gydag arwyddion modern uwchben a ffenestri adeiniog (uPVC) gerllaw. Mae’r llawr gwaelod wedi’i rendro a’i baentio’n wyrdd, gan droi i ochrau’r adain flaen yn unig.

Mae’r llawr cyntaf wedi’i wneud o frics Fletton wedi’i osod yn null Fflandrys gyda ffenestri adeiniog pren. Uwchben, mae cwrs ymyl a bargodion sbroced i’r to llechi talcen slip. Mae un corn simnai brics ar ochr chwith y grib.

Mae’r adain gefn wedi’i gwneud o frics heb eu rendro, gyda mynedfa i gerddwyr yn y gornel dde-ddwyreiniol wedi’i mewnosod. Mae gan wedd y de fanylion tebyg drwyddi draw (sydd hefyd yn troi i’r cefn), ond gyda bwa brics garw a maen clo anferth i ffenestr y llawr gwaelod.

Yn y cefn, mae estyniad unllawr mawr â tho gwastad – ychwanegiad diweddarach o bosibl. Mae gan y wedd ddeheuol amlochrog agoriadau wedi’u mewnlenwi ac mae ffurf anarferol ganddi.

Rheswm

Mae tua 90 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

DSA/12/3773

1922 – 1924 – New Inn, Llwynbedw, Yr Eglwys Newydd a Graig Cottage, Llys-faen.

Gohebiaeth 22 Mai 1922 – 1 Awst 1924.

Disgrifiad byr o’r safleoedd a brasluniau (ar bapur olrhain) o’r New Inn a’r tir.

Disgrifiad byr o’r New Inn a’r tir cyfagos a chefndir i drafodaethau â Mr. Beames a Stephenson Alexander.

Darnau o gynlluniau 6′ yr Ao wedi’u gosod at ei gilydd ar gyfer tir yr ystâd yn yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-faen, Rhydri ac Eglwysilan yn dangos cynigion ar gyfer tai a mannau agored ac ati ac yn cynnwys y New Inn a Graig Cottage (Tyn-y-graig Fach) gyda nodyn o 12 Medi 1924 a oedd ynghlwm wrtho ynghylch tir yn Heol y Fid-las, Llanisien.

BC/S/1/27169

1930 – Ailadeiladu’r New Inn, Heol Caerffili – Datblygwr: G Beames – 1 cynllun gan gynnwys gweddluniau

BC/S/1/29386

1934 – Newidiadau ac Ychwanegiadau i’r Dafarn, The New Inn, Heol Caerffili – Pensaer: T E Llewellyn – Datblygwr: G Beames – 1 cynllun gan gynnwys gweddluniau

BC/S/1/39166

1950 – Newidiadau, The New Inn, Heol Caerffili – Pensaer: J. H. Thraves – Datblygwr: Ansells Brewery – 1 cynllun gan gynnwys gweddluniau

BC/S/1/42686

1953 – Siop Drwyddedig, New Inn, Heol Caerffili – Pensaer: D A G William – Datblygwr: Ansells Brewery Ltd – 1 cynllun gan gynnwys gweddluniau

DCONC/6/94a-g

1924-1934 – New Inn, Heol Caerffili, gyda chynllun stryd (gan yr Arolwg Ordnans)

Delweddau ychwanego

 

1886 OS map showing the New Inn pub Cardiff

Arolygwyd rhwng 1875 a 1881. Cyhoeddwyd 1886.  Dalen Morgannwg XLIII

Lleoliad

Dweud eich dweud