Photo of The Malsters pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

28 The Malsters Arms

Dyddiad

Yn dyddio o 1840 o leiaf

Cyfeiriad

75 Heol Merthyr, CF14 1DD

Download site boundary plan.

Ward

Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais

Hanes

Cofnodwyd Tafarn (dienw) ar y safle mor gynnar â map degwm 1840, lle roedd yn cael ei ddisgrifio’n syml fel ‘Public House, Malthouse’ a oedd yn cael ei feddiannu gan Daniel Evans a Hannah Johnson. Mae’n ymddangos bod y safle (rhif 197) yn cynnwys dau adeilad, gyda’r mwyaf deheuol mwy neu lai ar safle’r adeilad presennol. Roedd tyddyn mawr (porfa) yn y cefn, o dan yr un berchnogaeth (rhif 196).

Ym 1853, etifeddodd Hannah Evans fusnes ei diweddar Fodryb (Hannah Johnson).

Yn 1855, cofnodwyd genedigaeth yn y ‘Maltsters Arms, yr Eglwys Newydd’ i Mrs Evans, gwraig William Evans, Tafarnwr ac Adeiladwr.

Ym 1865, adnewyddwyd y drwydded, i Mr William James.

Mae map 1886 yr AO 1886 (a arolygwyd 1875-1881) yn dangos bod yr adeilad gogleddol hir oedd yn wynebu’r ffordd (Malthouse?) wedi’i golli a bod cynllun yr adeilad deheuol (tafarn?) wedi newid o’r map degwm – ac mae ei gynllun yn debyg iawn i sut y mae heddiw, gydag adain yn wynebu’r ffordd ac adain stablau gydag iard yn y cefn (nodwyd stabl ym 1894). Mae’r tyddyn mawr yn y cefn yn dal yn amlwg.

Erbyn 1908, mae’r adeilad yn cael ei ddisgrifio fel ‘ailadeiladwyd’; gyda rhyw F. Couzens yn berchennog.

Mae ffotograffau heb eu dyddio hefyd yn dangos bod blaen yr adeilad hefyd wedi’i ail-lunio tua diwedd yr 20fed ganrif, gydag adeiladu’r portsh blaen talcen presennol uwchben y wedd unllawr brics coch.

Datblygwyd y tyddyn yn y cefn tua diwedd yr 20fed ganrif (fel Summerfield House a Court).

Disgrifiad

Mae prif ran yr adeilad yn cynnwys adeiledd deulawr â thri bae wedi’i osod yn ôl o Heol Merthyr. Mae gan y llawr gwaelod flaen to gwastad unllawr ymwthiol, a ffurfiwyd o frics gyda ffenestri pennau cylchrannol wedi’u mowldio (chwarelau plwm petryal). Mae drysau pâr (i’r bar a’r lolfa), sydd bellach wedi’u cuddio o fewn portsh talcen un llawr a hanner wedi’i adeiladu â brics. Adlewyrchir fframiau pren ffug i dalcen y portsh ar lefel y llawr cyntaf, lle mae dwy ffenestr fae ffasedog â thalcen yn ffinio â tho ar oleddf yr adeilad. Mae’r llawr uchaf a’r cyrn simneiau wedi’u rendro ac mae’r cyfan wedi’i baentio’n wyn.

Yng nghefn y brif adain, estyniad to gwastad unllawr mawr, gydag ychwanegiad llai uwchben sy’n cysylltu â’r hyn a oedd (yn ôl pob tebyg) yr hen adain stablau fel a ddangosir ar fap 1886. Mae hyn hefyd yn cynnwys adeilad deulawr â tho ar oleddf i ochr ogleddol yr iard gefn, gyda ffenestr fae fawr ymwthiol ar lefel y llawr cyntaf.  Mae adeilad unllawr arall â tho ar oleddf yn ffinio â’i ben gogledd-ddwyreiniol, ac adeiledd to gwastad arall sy’n amgáu pen yr iard.

Rheswm

Bu bracty a thafarndy ar y safle hwn ers o leiaf 1840. Er nad yw oedran yr adeilad presennol yn glir, mae’n debygol ei fod yn dyddio i 1908 o leiaf (ac ymddengys ei fod yn cadw ei adain stablau). Nid yw newid diweddarach wedi lleihau ei Werth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 115 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.

 

Cyfeirnodau

Dim i’w ganfod

Delweddau ychwanego

Undated archive photos of the Malsters Arms pub Cardiff

Ffotograffau archif heb eu dyddio

 

OS Map of the Malsters Arms pub Cardiff

Map AO 1875 i 1881 (Cyhoeddwyd 1886)

 

1840 Tithe Map showing the former building on the site of the Maltsters Arms pub Cardiff

1840 Map Degwm

 

Lleoliad

Dweud eich dweud