Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
27 The MackintoshDyddiad
1881Ward
CathaysHanes
Ym 1880 priododd Harriet Richards, yr oedd ei theulu’n berchen ar Plasnewydd (Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Mackintosh erbyn hyn) a llawer o’r tir cyfagos, ag Alfred Mackintosh, pennaeth y tylwyth Mackintosh, a oedd â mwy fyth o dir yn yr Alban. Pan werthwyd y tir yng Nghaerdydd i’w ddatblygu, enwyd llawer o strydoedd ar eu hôl, yn ogystal â Gwesty Mackintosh, a sefydlwyd ym 1881.1
Roedd y gwesty’n gorfod dygymod â rhai digwyddiadau anodd yn ei flynyddoedd cynnar. Ym 1883 cyhuddwyd Thomas Coles o dorri a chlwyfo Richard Hughes trwy daflu jwg o gwrw ato. Ym 1901 cafodd gwladolyn o Ffrainc, Frederick Bidois, oedd yn byw yn Teras Cathays, ei gyhuddo o ymosod ar y tafarnwr Robert Bucknill, a gwrthod gadael y safle. Dyma’r pumed tro i’r diffynnydd gael ei gyhuddo. Ym 1894 mae’r papurau yn cofnodi pwynt diddorol mewn hanes: Mewn cyfarfod o Gangen Caerdydd o Gymdeithas Dyngarol Merthyr, a gynhaliwyd yng Ngwesty Mackintosh, cafodd y penderfyniad canlynol ei basio’n unfrydol: Rhoi pleidlais ddiffuant o ddiolch i’r Arglwydd Bute, am ei gymwynas wrth dalu’r diffygion a achoswyd gan fethiant Banc Cynilo Caerdydd. (Roedd yr Arglwydd Bute wedi bod yn Llywydd Banc Cynilo Caerdydd pan fethodd ym 1886 oherwydd bod y cyfarwyddwyr wedi twyllo symiau mawr o arian).
Roedd y gwesty’n eiddo i fragdy William Hancock ym 1895 a gwnaed addasiadau ac ychwanegiadau yn yr un flwyddyn. Tua diwedd yr 20fed ganrif, roedd yn rhan o gadwyn Sizzling Pub a’r Stonegate Group. Mae’r Mackintosh bellach yn hysbysebu ei hun fel tafarn leol sy’n croesawu myfyrwyr yng nghanol Cathays, gan weini bwyd a chynnig byrddau pŵl a gardd gwrw fawr.2
1 Gweler y toriad o’r South Wales Daily News.
2 https://roathlocalhistorysociety.org/local-history/pubs/
Disgrifiad
Mae’r adeilad mewn lleoliad amlwg ar gornel Richard Street a Mundy Place. Mae’r adain ddeheuol sy’n wynebu Mundy Place wedi’i hadeiladu o frics llwydfelyn gyda chwrs plinth carreg Pennant isel a thriniaethau carreg (?) paentiedig addurnol drwyddi draw.
Mae’r brif fynedfa ar y gornel ffasedog, gyda llin-gwrs mowldin wy a dart cain ac esgytsiwn uwchben y drws. Uwchben, mae corbel garreg fawr yn cynnal y gornel ffasedog ar y llawr cyntaf sydd, yn ei dro, â chorbel â mowldin pigfain anferth yn cynnal y gornel â tho talcen slip ymwthiol gyda bargodion pren wedi’u mowldio.
Mae ffenestri’r llawr gwaelod yn ffenestri adeiniog pren, gydag uPVC ar y llawr cyntaf (yn disodli’r ffenestri dalennog ar ôl y flwyddyn 2000).
Mae adain hir yn troi i fyny Richard Street, wedi’i gosod ymhell yn ôl o’r ffordd, gyda golwg teras o dai wedi’i addasu arni. Wedi’i ffurfio mewn carreg Pennant llanw gyda thriniaethau carreg i giliau’r ffenestri. Mae mannau lle mae mewnlenwad rwbel ar hap yn dangos newidiadau dros amser nad ydynt yn cael eu deall yn dda ar hyn o bryd.
Rheswm
Tafarn wedi’i haddurno’n gyfoethog mewn lleoliad amlwg â ffurf bensaernïol ddiddorol. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 140 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/4656
Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty Mackintosh, Mundy Place
1884 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: R Bucknell
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/10987
Newidiadau ac Ychwanegiadau i’r Gwesty, Gwesty Mackintosh, Mundy Place
1895 – Pensaer: G Thomas – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd.
2 gynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/34525
Toiled i fenywod, Gwesty Mackintosh, Mundy Place
1943 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/37763
Arwydd, Gwesty Mackintosh, Mundy Place
1948 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
DCONC/6/78
1943 – Gwesty Mackintosh
Cynlluniau Posib