Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
26 The LandsdowneDyddiad
1898Ward
TregannaHanes
Adeiladwyd Gwesty’r Lansdowne ym 1898 i ddyluniadau’r pensaer Veall a Saint.1 ar gyfer W. Hancock and Co. (gweler y cofnod archif).2
Rhoddwyd trwydded ym mis Medi 1901.
Yn ôl tystiolaeth archifol a mapiau, fe’i hadeiladwyd fwy neu lai fel y gwelir heddiw, ac eithrio ychwanegiad diweddarach at y gogledd, a adeiladwyd rywbryd rhwng 1898 a 1915.
Roedd yr adeilad i’r gogledd-ddwyrain o’r safle yn floc stablau i’r gwesty ar un adeg.
1 Penseiri cynhyrchiol yng Nghaerdydd ar droad y ganrif oedd y rhain, a oedd hefyd yn gyfrifol am Ysgol Heol Lansdowne Restredig GII, Ysgol Gynradd Allensbank, Warws Spillers and Bakers ac Eglwys Adfentyddion y Seithfed Dydd (erbyn hyn) ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen ymhlith eraill.
2 Dywedir bod ‘cwch gwenyn’ mawr ar y gornel yn dynodi perchnogaeth flaenorol ar Cardiff Brewery Ltd Crosswell, er bod hyn yn ymddangos yn annhebygol – nid oedd Hancock & Co. erioed yn berchen ar Crosswell.
Disgrifiad
Tafarndy ‘Tudurbethaidd’ addurnedig o ddiwedd oes Victoria wedi’i adeiladu o frics coch gwasgedig gyda thriniaethau carreg nadd cyfoethog a phaneli carreg Pennant. Ar ffurf Cynllun L bras (gyda chornel gron) dros dri llawr, mae mewn safle amlwg ar gornel Heol Lansdowne a Beda Road.
Mae gan y prif weddau garreg Pennant yn y plinth (gyda charreg wedi’i mowldio uwchben) ac yn y llin-gwrs o dan ffenestri’r llawr cyntaf. Mae’r gornel gron amlwg yn cynnwys tri bae, wedi’u fframio gan fwtresi amlonglog uchder llawn, gyda pharapet carreg, terfyniadau a phediment canolog (gyda charreg ddyddiad). Mae gan fae’r gornel ganolog lin-gwrs wedi’i gerfio’n addurnol (sydd wedi dirywio’n helaeth), gydag arwyddion carreg cerfiedig i’r llawr cyntaf (sy’n cynnwys pedeirdalen gyda motiff cwch gwenyn).
Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys cymysgedd o agoriadau bwâu Gothig a 4 canol gyda fframiau carreg nadd, ffenestri adeiniog pren a drysau pren (pob un â chwarelau uchaf gwydr lliw). Mae portsh fynedfa garreg grand ym mhen gogleddol y rhan sy’n wynebu Beda Road, gydag architrafau Gothig wedi’u mowldio a bracedi gwrymiog trwm yn cynnal parapet addurnedig.
Mae’r ffenestri uchaf â phennau sgwâr (ffenestri dalennog modern) gyda fframiau carreg. Mae gan wedd y gorllewin (Beda Road) drefniant anarferol o ffenestri dalennog teiran gyda phaneli carreg wedi’u cerfio’n addurnol uwchben.
To llechi gyda ffenestri dormer ‘amrannau’ bach.
Ychwanegiad unllawr diweddarach at y gogledd a adeiladwyd mewn modd tebyg, gyda tho llofft olau.
Rheswm
Tafarn mewn lleoliad amlwg gyda manylion addurnol cyfoethog gan un o benseiri mwyaf cynhyrchiol Caerdydd ar droad y ganrif. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 125 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/13142
Gwesty Newydd, Heol Lansdowne
1898 – Pensaer: Veall & Saint – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd.
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/37759
Arwydd, Gwesty Lansdowne, Heol Lansdowne
1948 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
DCONC/6/69a,b
1940-1957 – Gwesty Lansdowne, Heol Lansdowne
Cynlluniau posib