Photo of The Kings Castle pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

25 Kings Castle

Dyddiad

Anhysbys. Rhwng 1877 a 1898

Cyfeiriad

74 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, CF11 9DU

Download site boundary plan.

Ward

Glan-yr-Afon

Hanes

Dywedir i’r King’s Castle gael ei sefydlu ym 18891 a’i enwi ar ôl ‘adeilad hynafol a safai ychydig ymhellach i’r dwyrain (1866)‘.2

Mae’r adeilad hwnnw i’w weld ym map Budgen dyddiedig 1811 ac mewn gwirionedd roedd cryn bellter i’r gogledd o’r dafarn bresennol, fel yr oedd i’w weld ar dap degwm 1846 (lle nodir ei fod yn ‘House Y Croft’, yn eiddo i Gabidwl Llandaf ac yn cael ei feddiannu gan Henry Martin).

Mae map cynharaf yr AO o 1877 yn dangos yr un adeilad fel Tafarndy (King’s Castle), gyda gefail ynghlwm wrth y rhan orllewinol, a gerddi (ac adeiladau allanol eraill) i’r gogledd. Fodd bynnag, mae cyfrifiad 1881 yn nodi’r eiddo fel ‘King’s Castle House’ a oedd yn cael ei feddiannu gan Edward Cross, Haearnwerthwr (gyda chwe aelod o’i deulu a dau was).

Mae tystiolaeth archifol hefyd yn awgrymu preswylfa breifat (o’r un enw) cyn y dyddiad hwn, gyda phrydlesi ar gyfer ‘King’s Castle’ yn dyddio’n ôl i 1781. Mae ffotograff o ‘King’s Castle House, Cowbridge’ dyddiedig 1880 ar gael yn Archif Morgannwg a llun arall yn dangos ‘y teulu’n eistedd y tu allan i’r King’s Castle House’ tua 1890. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel ym 1892 i wneud lle i Neuadd Goffa Davies.

Mae’r adeilad presennol yn ymddangos am y tro cyntaf ar fap 1901 yr AO (diwygiwyd 1898-99) ac fe’i labelir fel tafarndy gan yr AO ym 1920 (diwygiwyd 1915).

 

1 The Illustrated History of Cardiff Pubs

2 ‘The older inns of Cardiff’, yn Cardiff Records: Cyfrol 5, gol. John Hobson Matthews (Caerdydd, 1905), t. 438-445.

Disgrifiad

Mewn lleoliad amlwg ar gornel Heol y Brenin a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, ar ffurf Cynllun L bras (gyda chornel gron i’r gyffordd).

Mae’r adeilad yn cynnwys tri llawr yn bennaf ac mae wedi’i wneud o frics, wedi’u haddurno gan driniaethau carreg. Ar y llawr gwaelod, mae’r brif ran drillawr yn cynnwys agoriadau gyda fframiau carreg a cholofnigau sy’n cynnal pennau wedi’u mowldio, gyda mowldinau pen eraill drostynt (gyda stopiau deiliog). Mae gan y ffenestri bennau ysgwyddog ceugrwm ac mae gan y brif fynedfa (ar y gornel) ben hanner cylch gyda maen clo ‘King’s Head’.

Mae’r lloriau uchaf yn llai addurnedig, heblaw am ffenestr oriel garreg gyda pharapet bylchog ar y wedd ddeheuol (Heol Ddwyreiniol y Bont-faen). Ceir bargodion brics (a charreg) corbelog, gyda tho llechi a thalcen ar oleddf.

I’r gogledd, mae adain frics ddeulawr blaen yn wynebu Heol y Brenin. Mae ffenestri uPVC drwyddi draw.

Rheswm

Tafarn mewn lleoliad amlwg gyda rhai manylion addurnol cyfoethog (Gwerth Esthetig). Mae rhywfaint o Werth Hanesyddol yn gysylltiedig â’r adeilad a godwyd yn ddiweddarach sydd wedi bod mewn gwasanaeth ers rhyw 130 o flynyddoedd ac sydd hefyd â Gwerth Cymunedol sylweddol.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/X/96

1851 – Olrhain cynllun 1851 yr Arolwg Ordnans o ardal sy’n ymestyn o Bont Maendy i’r de i Stryd y Cei; mae tafarn King’s Castle, Heol y Bont-faen, tua’r dwyrain i ymyl orllewinol Parc Cathays, ac i Crockherbtown [Heol y Frenhines] a Windsor Street

D532/29/18

c.1890 – Ffotograff o King’s Castle House a’r teulu’n eistedd ar y lawnt

DBJ/409-410

1781-1823 – Prydlesi King’s Castle

DMTH/202/27/1

16 Awst 1799 – Morgais (Rhyddhau (Prydles am flwyddyn ar goll) mewn ymddiriedolaeth, am £60.

(i) Thomas Wilson o Gaerdydd, iwmon (nai a chymynedig yng ngweddill y safle, a enwyd yn Ewyllys Alex. Purcel o Gaerdydd, gof aur, ymadawedig) ac w. Eliz.; i (ii) Richard Rice Williams a Wyndham Lewis, y ddau o Gaerdydd, boneddigion; a (iii) Thomas Charles o Gaerdydd, bonheddig Tir (27a. 2r. 20c.), gynt wedi’i feddiannu gan Wm Jones, gof, ond bellach gan William Westmacutt, gyferbyn â’r King’s Castle;

DX254/27/17

King’s Castle House, Heol y Bont-faen

1880 – ffotograff. Cafodd y tŷ ei ddymchwel tua 1892. Roedd gwaith ailddatblygu’r safle yn cynnwys Neuadd Goffa Davies

DX254/25/2

Heol y Bont-faen, yn edrych tua’r dwyrain heibio’r King’s Castle

1900-1910

1 copi o’r ffotograff

Delweddau ychwanego

 

1880 OS Map showing empty site with King’s Castle, Cardiff

Map 1880 yr AO yn dangos safle gwag gyda’r King’s Castle i’r gogledd

 

1920 OS Map showing Kings Castle pub Cardiff

Map 1920 yr AO (arolygwyd 1915)

Lleoliad