Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
24 HollybushDyddiad
1840 ond y tebyg yw iddo gael ei hailadeiladuWard
Yr Eglwys Newydd a ThongwynlaisHanes
Mae’r geiriau ‘Holly Bush Public House’ yn ymddangos ar safle’r adeilad presennol ar fap degwm 1840 – gyda’r dosraniad yn dangos bod y tir yn eiddo i Ardalydd Bute a’r eiddo’n cael ei feddiannu gan Joseph Jones. Erbyn cyfrifiad 1841, meddiannwyd yr eiddo gan William Lewis.
Ar y dyddiad hwn, roedd yr adeilad ar ffurf Cynllun L, gydag adain hir wedi’i gosod yn ôl o’r ffordd ac adain yn ymestyn i’r tu blaen, yn y pen gogledd-orllewinol.
Erbyn map 1898 yr AO, ymddengys fod hyn wedi newid yn sylweddol, gyda’r adeilad yn cynnwys un adain yn unig yn erbyn ymyl y ffordd (efallai’n dangos bod gwaith ailadeiladu wedi’i wneud rhwng y ddau ddyddiad hyn).
Mae’n ymddangos bod ffurf yr adeilad wedi newid eto erbyn map 1920 yr AO, er ei bod yn bosibl i’r brif adain a oedd yn wynebu’r ffordd yn dal yn ei le, gydag adeiladwaith ychwanegol i’r cefn (ac i’r ddau ben).
Mae tystiolaeth archifol yn awgrymu y gwnaed gwaith ym 1937 (addasu’r system ddraenio a chodi garej newydd) ac ymddengys fod y gwaith hwn yn cynnwys ailfodelu sylweddol gan fod ffurf yr adeilad wedi newid yn fawr erbyn map 1946 yr AO, i’r cynllun cyffredinol a welir heddiw.
Disgrifiad
Trefniant cymhleth o adeiladau gyda’r prif rannau deulawr yn cynnwys toeau â theils plaen, gweddau â rendrad plastr garw, ffenestri adeiniog plwm mewn patrwm diemyntau a fframiau pren ffug i’r llawr cyntaf.
Mae’r wedd sy’n wynebu’r ffordd yn cynnwys tri bae, gyda blociau mynedfa to unllawr gwastad i’r ddau ben. Mae ail adain hir yn ymestyn o’r tu cefn tuag at y gogledd-ddwyrain, gydag adeiniau eraill yn ymestyn i’r gogledd-orllewin a’r de-ddwyrain. Mae amryw fewnlenwadau ac ychwanegiadau to gwastad eraill ac adain gul hir i’r cefn, sy’n ale fowlio yn ôl pob tebyg.
Mae maes parcio eang i’r gogledd, y gellir ei gyrraedd o Heol Pendwyallt.
Rheswm
Bu tafarn ar y safle hwn ers o leiaf 180 mlynedd. Nid yw dyddiad yr adeilad presennol yn glir (yr 20fed ganrif yn ôl pob tebyg) ond mae gan y cyfan Werth Hanesyddol a Chymunedol sylweddol.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
DNCB/6/14/3/4
Arolwg Ordnans, Argraffiad Cyntaf (1875)
DSA/12/929
Lleiniau adeiladu ar Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd (gerllaw Tafarn The Hollybush).
1902 – Manylion ac amodau gwerthu gyda’r cynllun, ar gyfer arwerthiant 20 Medi 1902.
RDC/S/2/1937/28
System ddraenio wedi’i haddasu, Tafarn yr Hollybush, Yr Eglwys Newydd
1937 – Pensaer: Gerald Stanley – Datblygwr: Wm Hancock & Co Ltd
Cynlluniau gan gynnwys gweddluniau
RDC/S/2/1937/136
Garej, Tafarn yr Hollybush, Yr Eglwys Newydd
1937 – Pensaer: Gerald Stanley – Datblygwr: Wm Hancock & Co Ltd
Cynlluniau gan gynnwys gweddluniau
RDC/S/2/1937/173
Garej, Tafarn yr Hollybush, Yr Eglwys Newydd
1937 – Pensaer: Gerald Stanley – Datblygwr: Wm Hancock & Co Ltd
Cynlluniau gan gynnwys gweddluniau