
Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
23 Tafarn HighfieldsDyddiad
1941 fel tafarn – adeilad i o leiaf 1886Ward
CaerauHanes
Mae tystiolaeth map yn dangos bod Tafarn Highfields ar safle Ffermdy Caerau (gweler map 1886 yr AO). Erbyn 1941, roedd y lle yn cael ei alw’n ‘Highfield‘ ac o bosib yn cael ei ddefnyddio fel meithrinfa ardd.1
Mae Archifau Morgannwg yn dangos bod y dafarn yn ganlyniad i addasu’r adeilad cyfredol, a wnaed ym 1955 gan y pensaer D. H. Rees.
Mae rhagor o ychwanegiadau’r 20fed ganrif at y cefn a’r dwyrain.
1Gweler tai gwydr helaeth ym map 1947 yr AO a chofnod Archifau Morgannwg ar gyfer 1948.
Disgrifiad
Mae Tafarn Highfields yn cynnwys adain hir o adeiladau cyfagos sy’n ymestyn o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain, o fewn llain hael ar Heol Caerau. Yr hyn sy’n ymddangos fel y rhan gynharaf yn cynnwys dau lawr i’r gogledd-orllewin, gyda waliau â rendrad plaen a tho llechi ar oleddf. Mae’n cynnwys pum bae anghymesur, y mae’r cyntaf ohonynt wedi’i osod ychydig yn uwch, gyda thu blaen eang a ffenestri canolog. Mae corn wedi’i rendro yn y pen gogledd-ddwyreiniol. Yn y cefn mae estyniad to gwastad unllawr bach. Mae gan y rhan arall â phedwar bae drefniant ffenestri amrywiol, gyda phortsh llechi ar oleddf ar ochr chwith y wedd a mynedfa arall ychydig i ffwrdd o’r canol. Mae ganddo gorn simnai canolog wedi’i rendro. Yn y cefn, mae estyniad ‘sleid gathod’ hir ac adain â thalcen wedi’i gosod yn is na’r grib gan ymestyn tua’r gogledd-ddwyrain. Mae’r holl ffenestri’n rhai uPVC brown modern.
Yn gyfagos i’r de-ddwyrain mae adain unllawr gyda tho llechi a ffasâd anghymesur. Ceir talcen mawr anghanolog gyda mynedfa bortsh islaw. Mae ffenestri adeiniog mawr, modern ar bob ochr. Mae corn simnai tal, main wedi’i rendro yn y pen de-ddwyreiniol. Yn y cefn mae estyniad to gwastad mawr.
Ymhellach eto i’r de-ddwyrain mae adeiledd cynllun sgwâr â tho gwastad a pharapet modern cyfagos, wedi’i osod ymhell o flaen llinell yr adeilad. Mae ganddo dair ffenestr adeiniog sefydlog fodern yn y wedd flaen ac estyniad to gwastad arall yn y cefn.
Rheswm
Gwerth Hanesyddol yn rhinwedd ei addasu o Ffermdy Caerau. Mae tua 68 mlynedd o wasanaethu’r gymuned yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/46209
Cynnig i addasu adeilad yn safle trwyddedig, Highfields, Heol Caerau, Trelái
1955 – Pensaer: D. H. Rees – Datblygwr: Mr E. J. Crowley
2 gynllun gan gynnwys gweddluniau
BC/S/1/23429
Ffyrdd newydd a dargyfeirio llwybrau troed, Highfields
1925 – Pensaer: W Lewis & P Jones – Datblygwr: W Lewis & P Jones
2 gynllun
BC/S/1/37502
Tŷ a siop, The Nurseries, Highfield, Heol Caerau
1948 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: E J Crowley
2 gynllun gan gynnwys gweddluniau.
Delweddau ychwanego

Map 1880 yr AO (arolygwyd 1875-81)

Addasiad i lawr gwaelod y ffermdy, 1955