Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
22 The HeathDyddiad
1899Ward
GabalfaHanes
Cafodd y Mynydd Bychan ei drawsnewid gan Ddeddf Amgáu’r Mynydd Bychan 1802 yn gymuned ffermio âr, gyda Fferm y Mynydd Bychan, Fferm Allensbank a Fferm Ton-yr-Ywen i gyd yn cael eu creu i amaethu a datblygu’r tir.
Mae dyddiad adeiladu Gwesty’r Heath yn aneglur ar hyn o bryd. Fe’i hadeiladwyd ar dir a oedd yn perthyn i Fferm Allensbank a dywedir iddo gael ei adeiladu ym 1899,1 er bod cynlluniau draenio seler wedi’u cyflwyno mor gynnar â 1893 (gweler Archifau Morgannwg).
Ychwanegwyd toiledau ym 1903 a gwnaed newidiadau pellach ym 1900.
Mae mân gynigion ar gyfer 1923 (gan I. Jones a P. Thomas) yn dangos ffurf gynllun llawer llai ar gyfer y prif adeilad ar yr adeg honno, gyda stablau helaeth yn yr iard orllewinol, a gardd i’r gogledd.
Cafodd yr ardal ei bwrw’n wael yn ystod y rhyfel, pan syrthiodd bomiau ym mis Mai 1943 yn Heol Allensbank, gan achosi difrod difrifol i Westy’r Heath a rhes o dai.2
Ymddengys fod estyniadau deulawr diweddarach i Heol Allensbank a Heol yr Eglwys Newydd o’r un cyfnod datblygu.
1 Gweler: https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/food-drink/heath-2-whitchurch-road-cathays-1858083
2 Gweler: Cardiffians – The History of Cardiff’s Suburbs – Heath.
Disgrifiad
Mae’r Heath yn adeilad3 amlwg iawn mewn arddull Tuduraidd ffug a godwyd ar lain pigfain ar gyffordd Heol Allensbank a Heol yr Eglwys Newydd.
Mae prif ran yr adeilad wedi’i ffurfio o dri llawr gyda bae prif fynedfa ffasedog yn y gornel. Mae’r llawr gwaelod wedi’i adeiladu o frics coch gwasgedig, gyda fframio pren Tuduraidd ffug i’r llawr cyntaf ac i ffenestri dormer yr ail lawr. Mae’r dwyrain (Heol Allensbank) a’r de-orllewin (Heol yr Eglwys Newydd) yn cynnwys gweddau tri bae tebyg. Ar y llawr gwaelod mae ffenestr adeiniog bren lydan, deiran yn y canol (gyda bwa pedwar canol) â ffenestri adeiniog (gyda phennau hanner cylch) ar bob ochr. Mae’r gwaith brics wedi’i dorri a’i fowldio i fwâu’r ffenestri gyda meini clo terracotta anferth, siliau carreg wedi’u mowldio a phaneli ffedog siamffrog isod. Mae ffenestr ochr dde gwedd Allensbank a ffenestr ochr chwith gwedd Heol yr Eglwys Newydd ill dwy’n ddrysau wedi’u blocio. Yn uwch na’r arwyddion ffasgia modern, mae ffenestri dalennog pren pâr ym mae canolog y llawr cyntaf ‘ffrâm bren’, gyda ffenestri dalennog sengl gerllaw (mae’r un ar y chwith wedi’i flocio i Heol Allensbank). Mae’r cyfan yn 9 dros 1 yn arddull ‘Adfywiad y Frenhines Anne’. Ar lefel yr atig, mae ffenestr ddormer ganolog ar oleddf (ffrâm bren hefyd), wedi’i chynnal ar fracedi pren rhychiog mawr ar jeti dros fargodion dwfn ceugrwm. Mae gan y to deils plaen coch gyda therfyniadau terracotta addurnedig. Mae cyrn simneiau mawr pob adain wedi cael eu colli ers y 1970au (gweler y llun). Mae gan y bae cornel ffasedog ddrws canolog gyda ffenestri adeiniog bach ar bob ochr, a chapan portsh addurnedig â bracedi uwchben y cyfan wedi’i gynnal gan gorbelau carreg mawr wedi’u mowldio. Ar y llawr cyntaf mae ffenestr oriel ‘ffrâm bren’, dros jeti creugrwm wedi’i blastro. Mae ganddo ffenestri adeiniog 9-dros-1 sefydlog (gyda ffenestri cul i’w giliau) a thalcen uwchben, gydag arwyddion modern ‘Brains’.
Mae estyniadau deulawr diweddarach i Heol Allensbank a Heol yr Eglwys Newydd ac ymddengys fod y ddau o’r un cyfnod datblygu. Maent mewn brics coch gwasgedig, gyda llin-gwrs carreg a brics wedi’u mowldio. Maent wedi paru ffenestri dalennog i bob bae, wedi’u gwahanu gan fyliynau brics ac wedi’u haddurno â bwâu cylchrannol wedi’u torri a’u mowldio, siliau carreg a ffedogau brics. Mae ffenestri adeiniog pren i’r llawr gwaelod a ffenestri dalennog pren 9 dros 1 i’r llawr cyntaf. Mae’r wedd i Heol Allensbank yn cynnwys un bae yn unig (drws wedi’i flocio yw’r ffenestr ar ochr chwith y llawr gwaelod). Mae’r wedd i Heol yr Eglwys Newydd yn cynnwys tri bae. Mae ganddo ddrws canolog (gyda ffenestr linter liw yn darllen ‘Bar Parlour’) o dan gapan portsh gyda ffrîs a phediment wedi’i integreiddio i’r llin-gwrs addurnol. Uwchben, mae ffenestri dalennog pâr culach yn y llawr cyntaf yn sefyll o dan dalcen â bracedi (gydag addurniadau ‘ffrâm bren’). Mae toeau’n rhai talcen slip â theils plaen a phibellau dŵr glaw haearn bwrw. Ymhellach i’r gogledd-orllewin ar hyd Heol yr Eglwys Newydd mae amryw estyniadau brics coch unllawr ac ardal eistedd dan orchudd. Ymhellach i’r gogledd ar hyd Heol Allensbank mae estyniad to gwastad unllawr wedi’i guddio’n rhannol gan benty i’r tu blaen. Mae’r ‘Lolfa Duduraidd’ y tu mewn wedi cadw ei phaneli ‘pren tywyll’.4
3 Ffurf gynnar ar arddull Tuduraidd Ffug Tafarnau – gweler http://www.breweryhistory.com/journal/archive/119/bh-119-002.html
4 Gweler: https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/food-drink/heath-2-whitchurch-road-cathays-1858083
Rheswm
Adeilad wedi’i addurno’n dda mewn lleoliad amlwg a ddyluniwyd fel arbrawf cynnar yn yr arddull ‘Tuduraidd Ffug Tafarnau’. Mae’r adeilad yn gwneud defnydd diddorol o’i lain gornel. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 120 mlynedd o wasanaethu’r gymuned yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/9242
Draenio i Seler y Gwesty, Gwesty’r Heath, Heol Wedal
1893 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: J Applegate
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/15092
Toiledau ychwanegol, Gwesty’r Heath, Heol yr Eglwys Newydd
1903 – Pensaer: R a S Williams – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/15925
Newidiadau i doiledau Gwesty’r Heath
1903
1 cynllun
BC/S/1/17286
Ychwanegiadau at y Gwesty, Gwesty’r Heath, Heol yr Eglwys Newydd
1909 – Pensaer: S Williams – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/22119
Newidiadau i Westy’r Heath, Heol yr Eglwys Newydd
1923 – Pensaer: Ivor Jones a Percy Thomas – Datblygwr: S A Brain
2 gynllun
BC/S/1/22119
Gwesty’r Heath. Y cynllun ar hyn o bryd a newidiadau arfaethedig, Gwesty’r Heath, Heol yr Eglwys Newydd
1923 – Pensaer: Ivor Jones a Percy Thomas – Datblygwr: Messrs. S. A. Brown and Co. Old Brewery.
2 gynllun