Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
21 The HalfwayDyddiad
Canol y 1800au – aneglurWard
Glan-yr-AfonHanes
Mae’r enw Pontcanna yn deillio o Fferm Pont Canna, a enwyd yn ei thro ar ôl pont ar draws Nant Whitehouse, un o lednentydd afon Taf a oedd yn rhedeg rhwng Caeau Llandaf a Glan-yr-afon. Credir yr oedd y bont yn sefyll ger cyffordd yr hyn sydd heddiw yn Teilo Street a Heol y Gadeirlan. Tynnwyd y bont (a gorchuddiwyd y nant) ym 1896.
Roedd yr hyn sydd heddiw yn Bontcanna yn dir amaeth bron yn gwbl agored tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y prif lwybr, Heol y Gadeirlan, gynt yn cael ei adnabod fel Lôn Pontcanna, gan redeg rhwng Fferm Plasturton yn y de a Fferm Pontcanna yn y gogledd. Ym 1854 dechreuodd Sophia, gweddw’r 2il Ardalydd Bute, ariannu gwaith i greu gardd 41 erw ar safle Fferm Plasturton, wrth ymyl Afon Taf a Phont Caerdydd. Gerddi Sophia yw’r enw am y safle erbyn hyn ac roedd yn sbardun i ddatblygu Pontcanna.
Rhwng 1885 a 1900 adeiladwyd y filâu mawr ar hyd Heol y Gadeirlan. Yna ychwanegwyd Plasturton Avenue a Plasturton Gardens ar droad yr ugeinfed ganrif.
Mae’r map degwm yn dangos tafarn yn y lleoliad bras hwn mor gynnar â 1846, er nad yw enw’r sefydliad yn hysbys. (Roedd yn cael ei feddiannu gan Owen Bowen.)
Nid yw’n glir ar hyn o bryd ai’r adeilad a estynnwyd ym 1887 yw hwn, wrth i’r gwaith datblygu pen gogleddol Heol y Gadeirlan fynd rhagddo.
Mae map 1880 yr AO (a arolygwyd ym 1879) yn dangos bod yr adeilad yn cynnwys llain gornel yn unig ar y pryd hwnnw, gyda’r adain hir ar Heol y Gadeirlan eto i’w hadeiladu. Yn ei le, mae dau adeilad hir, cul yn wynebu’r ffordd, gan amgáu’r iard helaeth yn y cefn.
Erbyn map 1920 yr AO (diwygiwyd 1915), roedd yr adain ddeulawr ychwanegol hon wedi cael ei hadeiladu. Mae’n bosibl y cafodd yr adeilad ei ail-lunio ar yr adeg hon – o waith brics Gothig i weddau wedi’u rendro yn ôl dyluniad clasurol.
Erbyn 1922-23, mae’n amlwg hefyd bod yr adeilad yn cael ei reoli gan S. & A. Brain and Co. Ltd (gweler DSA/12/4044).
Yn ddiweddarach eto, amgaewyd yr iard ymhellach gan adenydd hir i’r gorllewin a’r de (fel heddiw), ac mae un ohonynt yn cynnwys ale fowlio.
Disgrifiad
Mae’r Halfway yn adeilad Neo-Sioraidd amlwg ar gornel William Street a Heol y Gadeirlan. Mae’r prif adeilad ar gynllun siâp L fwy neu lai gydag adain fyrrach, ddofn yn wynebu’r gorllewin (ar William Terrace) ac adain hirach, gulach yn wynebu’r gogledd (i Heol y Gadeirlan). Mae’r brif fynedfa wedi’i lleoli yn ei gornel gron ogledd-ddwyreiniol.
Mae’r prif weddau wedi’u rendro, gyda nodweddion gerwino a meini clo anferth i agoriadau pennau cylchrannol y llawr gwaelod ac architrafau wedi’u mowldio (gyda meini clo) i agoriadau ffenestri’r llawr cyntaf. Mae’r lloriau’n cael eu gwahanu gan blatfand plaen. Mae gan y to llechi ar oleddf fondo bas drwyddi draw, ac eithrio parapet arwydd tal yn y gornel gron.
Mae gwedd ogleddol y prif adeilad yn cynnwys saith bae anghymesur gyda rhai llydan (gyda ffenestri dalennog pâr i’r llawr cyntaf a ffenestri adeiniog mawr i’r llawr gwaelod) a chul (gyda ffenestri dalennog sengl i’r llawr cyntaf a drysau i’r llawr gwaelod – mae un ohonynt wedi’i flocio) bob yn ail. Ceir un llawr arall (ychwanegiad diweddarach) i’r pen gorllewinol, gyda pharapet yn cuddio to gwastad un goleddf sy’n troi ar hyd ffin orllewinol yr iard.
Mae’r wedd ddwyreiniol yn cynnwys pum bae gyda mynedfa anghanolog. Mae’r bae ar y chwith ar ogwydd lle mae’n dilyn llinell y ffordd. I’r cefn, mae adain dalcen fer yn wynebu’r gorllewin ac mae goleddf y to yn ymestyn i ‘sleid gathod’ hir.
Mae’r iard wedi’i hamgáu gan adain hir i’r gorllewin gyda tho un goleddf ac adain gul i’r de.
Rheswm
Sefydliad wedi’i addurno’n dda mewn lleoliad amlwg y mae ei gymeriad wedi cael ei addasu o’r Gothig i’r Clasurol. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 140 mlynedd o wasanaethu’r gymuned yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/1128
Ychwanegiad at y gwesty, Gwesty’r Halfway, Heol Llandaf
1877 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: C Wiltshire
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/2636
Amgáu darn bach o dir o flaen eiddo ger Gwesty’r Halfway, Pontcanna
1881 – Pensaer: Anhysbys. Datblygwr: Mr Pride
1 cynllun, dim gweddlun
DCONC/6/63a,b
Gwesty’r Halfway, Heol y Gadeirlan
1959 – Cynlluniau Posibl
Delweddau ychwanego