Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
20 The GrangeDyddiad
Ailadeiladwyd ym 1892Ward
GrangetownHanes
Mae Tafarn y Grange neu Westy’r Grange yn Heol Penarth yn dyddio o ddiwedd y 1850au ac fe’i cofnodir gyntaf mewn erthygl papur newydd dyddiedig 1857.
Mae map 1880 yr AO – a arolygwyd ym 1876 – yn dangos yr adeilad ar ei lain gornel gydag adain bigfain o adeiladau ategol yn ymestyn i’r gogledd-orllewin.
Fodd bynnag, ailadeiladwyd y dafarn ym 1892. Cyflwynwyd dwy set o gynlluniau gan y pensaer John Price Jones – byddai un wedi golygu bod y dafarn “newydd” yn drillawr o uchder, gyda saith ystafell wely – mwy na thebyg i weithredu fel gwesty i deithwyr yn ogystal â thafarn. Yn y diwedd, penderfynwyd ar ailddatblygiad deulawr llai. Derbyniwyd y cynlluniau ailadeiladu gan bwyllgor gwaith y dref ym mis Hydref 1892. Roedd y ‘newidiadau, yr ehangiadau a’r gwelliannau adeileddol’ wedi’u cwblhau erbyn mis Medi 1893, pan wnaed cais am adnewyddu trwydded – mae’r cais hefyd yn ei gwneud yn glir bod y safle yn eiddo i SA Brain & Co.
Cafodd The Grange ei adnewyddu eto ym 1922, pan osodwyd toiledau newydd – o fewn rhan o’r hyn a fu’n storfa win yng nghefn y dafarn. Mae’r cynlluniau o’r dyddiad hwn yn dangos y prif far a’r ystafell arlwyo yn y gornel dde-ddwyreiniol, gyda ‘Bar Cinio’, ‘Ystafell Ysmygu’ ac Ystafell ‘Jygiau a Photeli’ eilaidd i’r de-orllewin. I’r cefn mae siop win, ystafell eistedd, cegin a chegin gefn. Mae iard sy’n gwahanu Ystafell Harneisiau a Stablau yn rhan ogleddol y llain, gyda digon o le ar gyfer tri cheffyl.1
Erbyn 1915, roedd yr adeilad wedi’i estyn i ymgorffori’r eiddo cyfagos ar Heol Penarth (gyda datblygiad cysylltiedig pellach i’r iard gefn), a meddiannwyd yr eiddo nesaf at hwnnw hefyd rhywbryd yn ddiweddarach yn y ganrif (gyda’r iard gefn wedi’i estyn i gyd-fynd â hynny). Ar ryw adeg yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif, collodd yr adeilad ei gyrn simneiau a’r parapet i’w do talcen slip (gweler y ffotograff).
1 Cymdeithas Hanes Lleol Grangetown – Ffeithlen Rhif 9 – Gwesty’r Grange
Disgrifiad
Saif y Grange yng nghornel amlwg ar gyffordd Heol Penarth a Plas Havelock, gyda’r adeilad bellach yn ymestyn i’r gogledd-orllewin (ar hyd Plas Havelock) ac i’r de-orllewin (ar hyd Heol Penarth). Yn y cefn mae gardd fawr agored. Mae’r brif fynedfa mewn cornel ffasedog i’r gyffordd.
Mae’r brif wedd (de-ddwyreiniol) yn cynnwys dau lawr wedi’u rendro a’u paentio. O’r dde i’r chwith, mae gan yr adeilad cornel gwreiddiol gornel ffasedog ag un bae, gyda drws (pren modern) ar y llawr gwaelod a ffenestr ddalennog bren dau dros ddau ar y llawr cyntaf. Mae gan y wedd sy’n wynebu Heol Penarth yn uniongyrchol ffenestr adeiniog bren pedwar rhan fawr fodern (gyda manylion panel plaen islaw) ar yr ochr dde ac agoriad drws wedi’i flocio ar yr ochr chwith (gyda lwfer awyru). Uwchben mae dwy ffenestr ddalennog bren gyda manylion corbel i’r siliau. Mae’r gweddill i’r de-orllewin yn cynnwys dau hen adeilad siop ar Heol Penarth – gyda tho gwastad unllawr yn y tu blaen ac adeiladau teras deulawr yn y cefn (gyda ffenestri dalennog 3 dros 3). Mae gan elfen y llawr gwaelod olwg anghymesur gyda drws, ffenestr adeiniog bren sefydlog deiran a chilfach ffenestr arall wedi’i blocio. Mae’r cyfan wedi’i uno gan arwyddion ffasgia modern, wedi’u paentio gyda bracedi consol sgwâr.
Mae’r wedd ogledd-ddwyreiniol (sy’n wynebu Plas Havelock) yn cynnwys dau lawr yn bennaf sydd wedi’u rendro a’u paentio. O’r chwith i’r dde, mae gan yr adeilad cornel gwreiddiol ffenestri adeiniog pren modern ar y llawr gwaelod (gyda gwydr lliw wedi’i gadw i’r cwarelau uchaf) a ffenestri dalennog pren dau dros ddau i’r cyntaf. Mae’r cyfan wedi’i uno gan arwyddion ffasgia modern, wedi’u paentio gyda bracedi consol sgwâr, y mae un ohonynt yn gostwng i bilastr rhychiog ar y dde. Mae rhan ddeulawr ffasedog arall sy’n troi o amgylch y gornel, gyda drws pren ar y llawr gwaelod a ffenestr ddalennog ar y llawr cyntaf (gyda manylion bwa o fewn y rendrad). Mae’r adeilad yn gostwng i un llawr gyda tho ar oleddf bas (a ffenestri wedi’u blocio), ac yna i adeilad to gwastad is heb ei rendro. Mae wal derfyn frics coch fodern i’r ardd, gyda gatiau pren.
Rheswm
Wedi’i ddylunio gan bensaer blaenllaw o Gaerdydd ar ddiwedd y 19eg ganrif gan roi rhywfaint o Werth Esthetig a Hanesyddol i’r adeilad. Mae 160 mlynedd o wasanaethu’r gymuned yn rhoi cryn Werth Cymunedol iddo.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/8744
Addasiad i’r Gwesty, Gwesty’r Grange, Heol Penarth
1892 – Pensaer: J P Jones – Datblygwr: Mrs Collins
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/8839
Ailadeiladu Gwesty’r Grange, Gwesty’r Grange, Heol Penarth
1892 – Pensaer: J P Jones – Datblygwr: E A Collins
2 gynllun gan gynnwys gweddluniau.
DSA/12/3711
Gwesty’r Grange a 134 Heol Penarth, Caerdydd.
1922-1924 – Prisiad profiant. (Ystâd E.A. Collins, Ymadawedig) F/5.
1 ffeil
DSA/12/4162
Gwesty’r Grange a 134 Heol Penarth, Caerdydd.
1924-1925 – Gwerthu buddiant lesddaliad a phrynu buddiant rhydd-ddaliad
(Buddiant lesddaliad Mr Collins, S.A. Brain and Co. ar brynu rhydd-ddaliad.)
1 ffeil
BC/S/1/21399
Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Grange, Heol Penarth
1922 – Pensaer: I Jones a P Thomas – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau