Photo of The Royal George pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

19 The Royal George

Dyddiad

1879-1886

Cyfeiriad

1-5 Plas MacKintosh, CF24 4RJ

Download site boundary plan.

Ward

Plasnewydd

Hanes

Dywedir i Westy’r Royal George gael ei sefydlu ym 1891.1 Fodd bynnag, mae Archifau Morgannwg yn cofnodi ‘ychwanegiadau’ at y safle mor gynnar â 1886.

Mae mapiau cynharaf yr AO yn dangos yn glir nad oedd datblygiadau wedi cyrraedd prif gyffordd Heol y Plwca/Heol Richmond/Heol Albany erbyn 1879 ac felly y gellir rhagdybio y cafodd ei adeiladu rhywbryd yn y 7 mlynedd rhwng 1879 a 1886.

3 Gweler The illustrated history of Cardiff’s pubs gan Brian Lee, t.22

Disgrifiad

Mae’r Royal George yn meddiannu llain bigfain, amlwg iawn lle mae Heol y Crwys a Plas Mackintosh yn cwrdd, i’r gogledd o gyffordd brysur lle mae tair ffordd arall hefyd yn cydgyfarfod (Heol Richmond, Heol Albany a Heol y Plwca). Diffinnir ffurf benodol siâp V yr adeilad sylweddol hwn gan drefniant y ffordd ac mae’n gwneud y defnydd gorau o’i safle.

Diffinnir y safle gan ddwy res hir, trillawr sy’n wynebu Heol y Crwys a Plas Mackintosh yn y drefn honno ac yn cydgyfarfod ar y gyffordd i’r de lle mae rhan o’r adeilad yn lleihau i ddau lawr yn unig. Ceir iard i’r gogledd, a gyrhaeddir gan fynedfa wagenni wedi’i gosod o fewn rhan fach ddeulawr o’r adeilad sy’n dod â’r teras i ben yn Plas Mackintosh. Mae’r adeilad yn cynnwys carreg Pennant lanw yn bennaf. Mae brics coch wedi’u defnyddio i ffurfio llin-gyrsiau ac addurniad y ffenestri. Mae symiau bach o gerrig hefyd yn cael eu defnyddio, wedi’u cadw ar gyfer y conglfeini, y corbelau, a myliynau, siliau a linteli’r ffenestri. Mae toeau’r prif adeilad yn doeau talcen slip wedi’u gorchuddio â llechi, gyda mowldin amgrwm i soffitiau’r bondo. Mae gweddau’r llawr gwaelod wedi’u paentio’n las.

Mae’r tu blaen deulawr deheuol yn cynnwys drysau dwbl modern, braidd yn fychan wedi’u gosod o fewn portsh pren crand â bracedi, gyda siamffrau stop-fowldio a tho teils plaen. O bob tu i hwn mae pilastrau carreg (neu wedi’u rendro?) mawr gyda chapanau deiliog. Mae ffenestr bren oriel ffasedog uwchben, wedi’i llenwi â 4 panel dalennog pren. Mae bracedi pren yn cynnal goleddf ymwthiol y to, sy’n rhedeg i mewn i’r to talcen slip uwchben (gyda therfyniad metel addurnedig).

Mae’r wedd orllewinol hir (sy’n wynebu Heol y Crwys) yn cynnwys tri llawr yn bennaf, wedi’u trefnu dros chwe bae afreolaidd. Mae gan faeau 1-3 ffenestri dalennog pren pâr ar lefel y llawr gwaelod, gyda chiliau brics wedi’u mowldio. Mae myliynau carreg canolog yn cynnal linteli carreg cylchrannol a mowldin cornisiau (sy’n torri trwy’r llin-gwrs wedi’i fowldio). Mae drws pren ychwanegol i Fae 3, gydag ffrâm tebyg. Ar y llawr cyntaf, mae gan faeau 1 a 2 ffenestri dalennog oriel pren, ac mae gan Fae 3 ffenestri pâr cywastad, gyda phob un wedi’i osod o dan lin-gwrs wedi’i fowldio. Ar yr ail lawr, mae ffenestri dormer sy’n torri trwy fondo’r to. Mae baeau 4 a 5 yn gostwng yn unol â goddef y tor. Ar y llawr gwaelod mae hen agoriad drws (sy’n ffenestr erbyn hyn) wedi’i baru â ffenestr ddalennog gyfagos, gyda’r ddwy â phennau carreg bwa Gothig â dau ganol gyda sbandreli cilfachog plaen. Maent wedi’u huno gan gapan portsh corbelog sy’n ffinio’n uniongyrchol â chorn simnai sy’n ymwthio o’r tu blaen (sydd bellach wedi’i ddymchwel ar lefel y to). Mae agoriad ffenestr fach, ddiweddarach yn agor ar y llawr cyntaf (sydd bellach wedi’i gau) wedi’i fewnosod ger ffenestr wreiddiol (gweler y llun hanesyddol).  Mae Bae 5 yn cynnwys dau lawr yn unig. Mae ffenestri llawr gwaelod mawr (hefyd gyda myliwn carreg canolog a phennau Gothig) yn cael eu paru o dan gapan portsh corbelog arall.  [parhad ar y dudalen nesaf]

Mae’r wedd orllewinol hir (sy’n wynebu Plas Mackiontosh) yn cynnwys tri llawr yn bennaf, wedi’u trefnu dros saith bae afreolaidd. Mae Bae 1 yn cynnwys dau lawr yn unig. Ffenestr llawr gwaelod fawr gyda myliynau a chroeslathau pren siamffrog (?) sy’n ymgorffori hen agoriad drws ar yr ochr dde, gyda’r cyfan wedi’i osod islaw capan portsh corbelog. Ar yr ochr chwith, mae’r pilastr capan deiliog yn gwrthdroi o’r tu blaen. Gwedd heb ffenestri uwchben. Mae baeau 2-4 wedi’u huno ar lefel y ddaear gan bortico pilastr mewn rendrad (?) sy’n ymgorffori drws a ffenestri cyfagos. Mae pilastrau’n rhychiog, gyda phaneli canolog wedi’u codi wrth ymyl y drws sydd wedi’u cwtogi. Llythrennu ar y tympanwm a’r ffrîs yn darllen ‘The Royal George Hotel’. Mae cymysgedd o ffenestri dalennog pren i’r llawr cyntaf a’r ail lawr. Mae Baeau 5 a 6 wedi’u huno ar y llawr gwaelod gan ddwy ffenestr deiran gyda drws canolog (sydd bellach wedi’i flocio’n rhannol gan ffenestr adeiniog fawr) gyda phob un wedi’i orchuddio â mowldin capan hir gyda phediment corbelog a maen clo dros y drws blaenorol. Mae gan ffenestri adeiniog teiran ar yr ochr chwith fwa gwastad plaen ac mae’r ffenestri dalennog teiran ar yr ochr dde wedi’u gwahanu gan fyliynau carreg ac yn cynnwys pennau cylchrannol â meini clo. Mae ffenestri dalennog pren pâr i’r llawr cyntaf a ffenestri dalennog pren sengl i’r ail lawr. Mae Bae 7 yn cynnwys un drws allanfa dân modern ar lefel y llawr gwaelod gyda phen carreg cylchrannol (a meini clo) a mowldin capan uwchben. Mae ffenestri dalennog pren i’r llawr cyntaf a’r ail lawr.

I ben gogleddol yr adain ddwyreiniol mae cerbyty deulawr bychan sydd hefyd yn dod â’r teras yn Plas Mackintosh i ben. I’r llawr gwaelod, mae’r agoriad gwreiddiol ar gyfer y drysau coetsis yn dal i fod yn eu lle, wedi’u gorchuddio gan fwa pedwar canol a mowldin capan sy’n ei uno â’r ffenestr ddalennog gerllaw. Mae’r agoriad bwaog wedi’i fewnlenwi’n wael, gyda drysau dwbl modern bychan. Mae drws llofft uwchben, gyda drws pren â ffrâm, canllawiau a chreffynnau. I’r chwith mae ffenestr ddalennog bren arall.

Rheswm

Tafarn amlwg a sylweddol iawn o ansawdd pensaernïol da sy’n gwneud y defnydd gorau o safle anodd. Gwerth Esthetig a Hanesyddol.

Mae tua 140 mlynedd o wasanaethu’r gymuned yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/1/5590

Ychwanegiadau at y Gwesty, Gwesty’r Royal George, Heol y Crwys

1886 – Pensaer: C Rigg – Datblygwr: S N Burns

2 gynllun gan gynnwys gweddluniau.

BC/S/1/8025

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Royal George, Heol y Crwys

1891 – Pensaer: C Rigg – Datblygwr: S Loveless

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/37765

Arwydd, Gwesty’r Royal George, Heol y Crwys

1948 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/38082

Toiledau gwell, Gwesty’r Royal George, Plas Mackintosh

1949 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd

1 cynllun, dim gweddluniau

DCONC/6/126

Gwesty’r Royal George

1938 – Cynlluniau Posibl

DSA/12/4148

Gwesty’r Royal George

1924. Arwerthiant  Gan gynnwys amserlenni a rhestrau.

DSA/8/29 f.22

Stephenson & Alexander, Arwerthwyr a Syrfewyr Siartredig, Cofnodion – c1710-c2012 8 – Llyfrau gwerthiannau’r cwmni – 1878-1988. Cyfrol 29. 5 Chwef 1924 – 17 Rhagfyr 1925. 201 ffolio. 1 gyfrol.

Delweddau ychwanego

Lleoliad