Photo of The Fox and Hounds pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

18 Fox and Hounds

Dyddiad

1875 neu'n gynhar-ach

Cyfeiriad

Heol yr Hen Eglwys, CF14 1AD

Download site boundary plan.

Ward

Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais

Hanes

Deëllir mai capel gwyn Eglwys y Santes Fair (sydd wedi’i dymchwel erbyn hyn) yw tarddiad enw maestref yr Eglwys Newydd (a’r enw Saesneg Whitchurch). Mae pobl wedi trigo yn yr ardal ers dyfodiad y Rhufeiniaid yn 50ÔC, fel y’i tystiwyd gan ddarganfyddiad clos Rhufeinig ac olion amrywiol yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

Ar ddiwedd yr 11eg ganrif, goresgynnwyd De Cymru gan y Normaniaid a dechreuodd brwydr rhwng y Ffrancwyr goresgynnol a Silwriaid Cymru. Ar ôl 150 mlynedd o ysgarmesau, llwyddodd byddin y Normaniaid, dan arweiniad Gilbert de Clare, i gymryd y tir ac adeiladu caer bren ger y clos Rhufeinig gwreiddiol (ac ychydig i’r gogledd-ddwyrain o’r Fox and Hounds – gweler y mapiau). Yn ddiweddarach, atgyfnerthwyd y mwnt mewn carreg tua 1266 ond dros y canrifoedd, wrth i’r Normaniaid ildio’u gafael ar Dde Cymru o’r diwedd, dirywiodd yr adeiledd. Ym 1966, cloddiwyd y castell er mwyn adeiladu fflatiau Clos Treoda.1

Nid yw datblygiad cynharaf tafarn y Fox and Hounds yn glir, er y dywedir ei fod yn dyddio o’r 16eg ganrif i’r 17eg ganrif. Yn ôl ffotograffau a gedwir ar y safle, roedd ysgol yn yr hyn sydd bellach yn faes parcio’r dafarn yn ystod y 19eg ganrif (mwy na thebyg yr adeilad hwnnw sy’n cael ei ddangos i’r de ar fap 1875), a gellir gweld y dafarn gyda tho gwellt.2

Dangosir rhes hir o adeiladau ar y safle ar fap cynharaf yr AO o 1875-81 (gydag adeilad ar wahân yn wynebu’r ffordd i’r de) – y cyfan wedi’i leoli o fewn yr hyn a oedd, mae’n rhaid, yn ganol yr hen anheddiad, rhwng yr eglwys a’r mwnt Normanaidd.

Roedd y trefniant hwn o adeiladau yn amlwg o hyd mewn cynlluniau o 1925 a gynhyrchwyd gan I. Jones a P. Thomas. Yma, gwelwn yr Ystafell Gwrw, y Bar a’r Ystafell Ysmygu i ben gorllewinol yr adain hir, gyda cheginau gerllaw (i’r pen dwyreiniol). Mae adeiladau ar wahân i’r de yn cynnwys storfeydd, Ystafell De ac Ale Fowlio.

Yn ôl pob sôn, gwnaed estyniad i’r tu blaen yn y 1970au3 ac yn ddiweddarach, gan arwain at y trefniant a welir heddiw.

1 https://www.cardiffians.co.uk/suburbs/whitchurch_and_tongwynlais.shtml

2 https://beerbrewer.blogspot.com/2012/04/fox-hounds-whitchurch-cardiff.html

3 The illustrated history of cardiff’s pubs, t.22

Disgrifiad

Mae’r Fox and Hounds yn cynnwys prif adeilad deulawr hir sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd ffin ogleddol ei llain, wedi’i ffurfio gan ddau gam adeiladu ar wahân (y mae’r ddau ohonynt yn dyddio o adeg cyn 1875 mae’n debyg). Mae’r ddau ar gynllun petryal gyda thoeau talcen llechi ar oleddf.

Mae’r rhan hwyaf, ddwyreiniol yn cynnwys 4 bae anwastad gyda chyrn simnai i’r ddau ben, waliau wedi’u rendro a ffenestri uPVC. Mae gan y brif wedd gyntedd pren modern i’r llawr gwaelod ar y chwith; mae’r ochr dde wedi’i chuddio gan ddatblygiad diweddarach (20fed ganrif). Mae’r talcenlun dwyreiniol yn wynebu Heol yr Hen Eglwys, gyda ffenestr adeiniog fodern i ochr dde’r llawr gwaelod a drws pren cul anarferol i ochr chwith y llawr cyntaf. Mae estyniad to gwastad unllawr i’r ochr chwith (gyda ffenestr adeiniog fawr), sy’n amlapio i’r cefn (gogledd).

Mae rhan fyrrach, orllewinol yr adeilad hefyd yn cynnwys 4 bae anwastad, gyda waliau wedi’u rendro a ffenestri uPVC i’r llawr cyntaf. Mae’r llawr gwaelod wedi’i guddio gan estyniad diweddarach i’r tu blaen ac estyniad un-goleddf unllawr i’r dwyrain.

I’r de, mae estyniad to gwastad unllawr o’r 1970au wedi cael ei amsugno’n ddiweddarach gan ragor o estyniadau to ar oleddf i ffurfio ehangle o gyfadeilad sy’n ymestyn i’r maes parcio.

Rheswm

Safle hanesyddol yng nghanol yr hen anheddiad. Mae’r prif adeiladau, er eu bod wedi’u moderneiddio, o gryn hynafiaeth (o leiaf 1875).  Er nad oes dealltwriaeth lawn gennym, mae blynyddoedd hir o wasanaeth parhaus yn rhoi Gwerth Hanesyddol a Chymunedol i’r safle.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

RDC/S/2/1925/60

Gwesty’r Fox and Hounds, Yr Eglwys Newydd

Cofnodion Dosbarth Gwledig Caerdydd – Cynlluniau Adeiladu’r Syrfëwr

1925 – Pensaer: Ivor Jones a Percy Thomas – Datblygwr: Messrs S A Brain & Co Ltd

4 cynllun gan gynnwys gweddluniau.

Delweddau ychwanego

Original drawing of the Fox and Hounds pub, Cardiff

Cynllun y llawr gwaelod 1925

 

1898 OS Map showing fox and hounds pub cardiff

Map 1898 yr AO

Lleoliad

Dweud eich dweud