Photo of The Four Elms 
pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

17 Four Elms

Dyddiad

1859

Cyfeiriad

1 Elm Street, CF24 3QR

Download site boundary plan.

Ward

Plasnewydd

Hanes

Yn ôl Cymdeithas Hanes y Rhath, agorwyd Tafarn y Four Elms ym 1859 ac mae adroddiadau papur newydd cynharaf yn dyddio o’r un flwyddyn. Mae’r dafarn yn cael ei henw o bedair llwyfen nodedig a oedd unwaith yn dirnodau lleol ond a gafodd eu cwympo ym 1901 er mwyn ehangu Heol Casnewydd.1

Ym 1862 roedd y Four Elms yn cael ei argymell fel un o’r lleoedd posib i aros i bobl a oedd yn mynd i Farchnad Wartheg y Rhath newydd ei hagor. Roedd gan y Four Elms ‘Fwyd ar gyfer gwartheg a defaid’, ‘gwair, gwellt ac erfin’ a ‘siediau a chorau’ da ar gael (gweler yr erthyglau papur newydd).

Mae map 1879 yr AO yn dangos yr un ffurf sylfaenol â sydd i’w gweld heddiw: mae’r safle yn llenwi’r llain bigfain gyfan, gyda’r dafarn yn adeilad deulawr ar y gornel ddeheuol (yn ogystal ag estyniad unllawr i’r gogledd-ddwyrain). Dangosir rhagor o adeiladau sydd bellach wedi’u colli, gan gynnwys yr hyn sy’n ymddangos fel y ‘siediau’ neu’r ‘corau’ uchod gydag ardaloedd bach wedi’u hamgáu gan waliau i’r tu blaen ac adeilad deulawr gyda grisiau yn erbyn y wedd ddeheuol (adeilad stablau efallai). Ceir gardd â wal o’i chwmpas ym mhen gogleddol y safle.

Adeiladwyd yr ale fowlio ym 1895 a sied newydd ym 1897 ynghyd â newidiadau i’r tafarndy. Gwnaed addasiadau eraill o’r fath ym 1908 (gweler Archifau Morgannwg).

Erbyn tua 1910, roedd yn dŷ rhydd o’r enw Gwesty‘r Four Elms, ac roedd ganddo rendrad cerrig nadd wedi’u hendorri i’r llawr gwaelod gyda chapanau cornisiau uwchben y drysau a ffenestri dalennog gyda chwarelau ymylol i’r llawr cyntaf (gweler y dystiolaeth ffotografig).

Mae map 1915 yr AO yn dangos yn glir rai o’r datblygiadau a wnaed ddiwedd y 19eg ganrif, gydag adeiladau allanol ychwanegol ac adeilad yr ale fowlio cul yn ymestyn ar hyd ffin orllewinol yr ardd.

Nid yw’r dafarn bob amser wedi cael ei galw’n Four Elms. Yng nghanol y 1990au trodd yn far Yellow Kangaroo ar thema Awstralia, ac yn ddiweddarach daeth yn Bar YK. Yna cafodd y dafarn ei hachub a’i hadnewyddu ac adferwyd yr enw gwreiddiol.2

1 https://roathlocalhistorysociety.org/local-history/pubs/

2 ibid

Disgrifiad

Mae’r dafarn wreiddiol ar ffurf cynllun L, ar gornel Elm Street a’r lôn (heb ei henwi) sy’n troi oddi yno. Mae’r brif fynedfa mewn cornel sy’n wynebu’r de. Mae’r wedd dde-orllewinol yn cynnwys un bae yn unig, gyda phum bae i’r adain hirach gyferbyn â’r lôn – gan ddod i ben gyda bae llawr a hanner arall i’r gogledd-ddwyrain. Mae gan yr adeilad rendrad plastr garw (wedi’i baentio’n wyn), gyda tho llechi ar oleddf ag un corn simnai wedi’i rendro a chwteri haearn bwrw i’r perimedr. Mae’r ffenestri’n rhai uPVC modern gyda architrafau wedi’u ffurfio mewn rendrad (ac wedi’u paentio’n ddu).

I lawr cyntaf y wedd orllewinol, mae arwyddion wedi’u paentio gyda ffiniau rendrad wedi’u mowldio mewn modd tebyg i’r gwreiddiol (er bod yr ochr chwith wedi’i hehangu i orchuddio’r ffenestr wedi’i blocio).

Mae’r adeilad deulawr (stabl?) yn yr iard i’r cefn o hyd a saif adeilad yr ale fowlio o 1895 yn erbyn ffin y gorllewin. Fodd bynnag, bu nifer o ddatblygiadau mewnlenwi o amgylch y prif adeiladau hyn ac mae’r ardd wedi’i hehangu i’r gorllewin.

Rheswm

Mae rhyw 160 mlynedd o wasanaeth parhaus yn rhoi Gwerth Hanesyddol a Chymunedol sylweddol i’r safle.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/1/10703

Ale fowlio, Gwesty’r Four Elms, Elm Street

1895 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: E. John

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/12024

Sied a Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Four Elms, Four Elms Lane

1897 – Pensaer: S Williams – Datblygwr: E John

BC/S/1/16791

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Four Elms, Elm Street

1908 – Pensaer: S Williams – Datblygwr: W Giles

BC/S/1/37756

Arwydd, Gwesty’r Four Elms, Elm Street

1948 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd

Delweddau ychwanego

1880 OS plan showing the Four Elms Pub

Map 1880 yr AO (arolygwyd 1879)

Lleoliad

Dweud eich dweud