Ash Phillips

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

16 The Flora

Dyddiad

Rhoddwyd trwydded ym 1875

Cyfeiriad

134-136, Teras Cathays CF24 4YH

Download site boundary plan.

Ward

Cathays

Hanes

Wedi’i adeiladu fel rhan o ddatblygiad cynharaf Teras Cathays a Flora Street tua diwedd y 1870au. Fe’i henwyd The Flora ar ôl Flora Hastings (1806-1839) (fel Flora Street), y chwaer-yng-nghyfraith i ail Ardalydd Bute.

Cynhyrchwyd y dyluniad ar gyfer yr adeilad hwn gan y pensaer P. Jones (o 26 Stryd y Parc, Caerdydd) ar gyfer Mr E. Rowland ym 1873.

Dyluniwyd yr adeilad gyda Chegin, Cegin Gefn a seler yn yr islawr, gyda Bar, Ystafell Ysmygu, Parlwr ac Ystafell Gwrw ar y llawr gwaelod. Ar y llawr cyntaf: Ystafell Clwb fawr i’r gorllewin gydag ystafelloedd gwely i’r gweddill, gan gynnwys yr ail lawr. Estyniad deulawr bach i’r dwyrain gyda thoiledau.

Yn ôl pob sôn, agorwyd gwesty The Flora ym 1884, i wasanaethu’r gweithwyr rheilffordd ar iard reilffordd Cathays gerllaw,1 er bod trwydded wedi’i rhoi mewn gwirionedd i ‘westy The Flora, tŷ newydd yn Teras Cathays’ ym mis Medi 1875 (Cardiff Times, 11/09/1875).

Mae’n ymddangos bod yr olaf o’r tai teras yn uniongyrchol i’r de o’r prif adeilad yn rhan o’r safle heddiw.

1https://roathlocalhistorysociety.org/local-history/pubs/

Disgrifiad

Adeilad trillawr mewn lleoliad amlwg ar gornel Flora Street a Teras Cathays. Wedi’i adeiladu mewn carreg Pennant lanw gydag addurniad brics aml-liwiog ar y prif weddau (mewn brics coch a llwydfelyn am yn ail i’r llin-gyrsiau a phennau’r ffenestri). To llechi ar oleddf gyda chribau plwm a chyrn simneiau brics coch.

Mae cynllun petryal yn ffurfio cornel ochrog yn y gogledd-orllewin (a oedd unwaith yn cynnwys y fynedfa). Estyniad toiledau deulawr gwreiddiol yn y cefn, gyda mewnlenwad unllawr diweddarach gerllaw o fewn yr iard gefn.

Ffenestri adeiniog modern i’r llawr gwaelod, ffenestri dalennog 2-dros-2 i llawr cyntaf ac ail lawr y prif weddau (Gorffennaf 2019). Arwyddion pren modern â byrddau fertigol.

Gwedd orllewinol tri bae gyda drws pren 6 phanel canolog a mowldin bolecsiwn. Adeilad deulawr gerllaw i’r de (sy’n rhan o’r teras i Deras Cathays), gyda ffenestr dalennog aml-gwarel deiran i’r llawr gwaelod. Gwedd ffasedog i’r ochr chwith.

Gwedd ogleddol â dau fae gyda mynedfa (drws pren 6 phanel gyda mowldin bolecsiwn) i’r ochr chwith a phenty unllawr sy’n helpu i amgáu’r iard. Gwedd ffasedog i’r ochr dde.

Mae’r wedd gefn (orllewinol) wedi’i rendro, gyda llinellau cerrig nadd wedi’u hendorri. O bwys arbennig mae’r ffenestri dalennog aml-gwarel (chwech dros chwech i’r llawr cyntaf, tri dros chwech i’r ail lawr) a ffenestr dalennog hir y grisiau gyda chwarelau ymylol lliw (arolygwyd y wedd gefn ddiwethaf ym mis Medi 2014).

Mae wal gerrig rwbel cymysg uchel yn amgáu’r iard gyda drws allanfa dân fodern.

Rheswm

Tafarn Fictoraidd amlwg o ddrychiadau â gweddau wedi’u cyfansoddi’n dda, a adeiladwyd mewn deunyddiau o ansawdd da.

148 blynedd o wasanaeth i’r ardal. Gwerth Esthetig, Hanesyddol a Chymunedol.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/1/90790

Gwesty arfaethedig, The Flora, Teras Cathays

1873 – Pensaer: P Jones – Datblygwr: Edward Rowland

2 gynllun gan gynnwys gweddluniau

BC/S/1/34352

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty The Flora, Teras Cathays

1939 – Pensaer: I Jones a J Bishop – Datblygwr: Rowlands

1 cynllun, dim gweddluniau

DX23/1

Llun o Westy The Flora

Dim Dyddiad – Llun o Westy The Flora, Teras Cathays, Caerdydd, gyda dau blismon yn sefyll tu allan.

DX23

Casgliad Ffotograffig y Teulu Richards

c1890-1913

Mae’n cynnwys llun o Westy The Flora, Caerdydd

BC/S/1/2936

Draenio, Flora Street

1881 – Pensaer: J P Jones – Datblygwr: C Gray

1 cynllun

Delweddau ychwanego

Original drawing of the Flora pub cardiff

1873 proposed elevation by P Jones

Gwedd arfaethedig 1873 gan P. Jones

Lleoliad