Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
15 Gwesty FairwaterDyddiad
tua 1938Ward
TyllgoedHanes
Yn wreiddiol roedd tiroedd ffermio’r Tyllgoed yn eiddo i Esgob Llandaf. Ym 1553 gwerthwyd y tiroedd i Miles Mathew (a oedd yn berchen ar lawer o erwau yn yr ardal a’r cyffiniau).
Ychydig ganrifoedd yn ddiweddarach, trosglwyddwyd y Tyllgoed i’r teulu Romilly, ac yna ym 1852 i William Cartwright (y mae Cartwright Lane yn cymryd ei henw ohoni). Yn gynnar yn y 1900au, roedd ychydig dros 100 o bobl yn byw yn y pentrefan gwledig, a oedd wedi’i leoli’n bennaf o amgylch Lawnt y Tyllgoed.
Mae map degwm 1846 yn dangos tyddyn bach a oedd yn cael ei feddiannu gan William James ar safle’r Fairwater, adeilad to gwellt o gryn hynafiaeth (gweler y llun).
Ar ddiwedd y 1930au, llosgodd yr eiddo ac yn ei le codwyd Gwesty Fairwater.1
Fodd bynnag, cafodd yr adeilad ei nodi’n glir ar fap 1940 yr AO fel ‘clwb’ ac mae cofnodion Archifau Morgannwg yn dangos bod yr adeilad wedi’i adeiladu’n wreiddiol tua 1938 fel ‘Clwb Ceidwadol y Tyllgoed’ yn ôl dyluniadau Syr Percy Thomas.2
Roedd y brif adain a oedd yn ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin yn cynnwys Ystafell Glwb ar y llawr gwaelod ac Ystafell Ddarlithio ar y llawr cyntaf, gyda’r ddwy’n llenwi rhan helaeth o’r cynllun, gyda gwasanaethau wedi’u cyfyngu i’r pen dwyreiniol. Roedd yr estyniad unllawr i’r gogledd yn cynnwys Ystafell Filiards (gyda chyntedd grisiau gerllaw) ac roedd yr adain i’r de yn cynnwys Ale Fowlio gyda lle tân a seddi cil pentan (yr oedd modd ei chyrraedd trwy gyntedd to gwastad unllawr).
Dyluniodd Percy Thomas ychwanegiad newydd at y rhan ddwyreiniol hefyd ym 1938: llety unllawr i’r Gofalwr.
1 Gweler: Cardiffians.co.uk – History of the Suburb of Fairwater [1] Gweler: Cardiffians.co.uk – History of the Suburb of Fairwater https://www.cardiffians.co.uk/suburbs/fairwater_and_pentrebane.shtml#:~:text=Fairwater%20became%20a%20suburb%20of,Plasmawr%20Road%20began%20to%20disappear.
2 Symudodd Clwb Ceidwadol y Tyllgoed i’w adeilad presennol ym 1941. Am fwy o wybodaeth am Syr Percy Thomas, gweler: https://biography.wales/article/s2-THOM-EDW-1883
Mae cais rhestru mannau wedi’i wneud i Cadw ar gyfer yr adeilad hwn (20/12/2023).
Disgrifiad
Adeilad wedi’i ysbrydoli gan y mudiad Celfyddyd a Chrefft gyda chynllun croesffurf fras ar lain amlwg a hael i gornel Cartwright Lane a Heol Sain Ffagan.
To panteils coch ar oleddf serth gyda waliau â rendrad gwyn, ffenestri adeiniog pren a phlwm a chyrn simneiau petryal mawr wedi’u ffurfio o frics.
Mae’r brif adain ddeulawr yn ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin gydag estyniadau unllawr ychwanegol yn y pen gorllewinol Mae adain risiau ddeulawr yn ymestyn i’r gogledd, wedi’i gosod yn is na’r prif adeilad, gyda mynedfa dan ganopi i’w gwedd orllewinol. Mae adain fynedfa unllawr hirach wedi’i gosod i’w hochr ddwyreiniol, sydd hefyd yn rhedeg yn ôl i’r brif adain.
I’r cefn, mae adain ale fowlio ddeulawr yn ymestyn i’r de. Mae gan y tu blaen yn y gorllewin olygfa dros yr ardd, gyda rhan ganolog ymwthiol â pharapet a chorn simnai canolog (sydd bellach wedi’i gwtogi). Mae gan y cyntedd to gwastad yn y cefn ddau lawr erbyn hyn.
Rheswm
Adeilad sylweddol mewn lleoliad amlwg. Adeilad o ddyluniad Celfyddyd a Chrefft diddorol o ddechrau’r 20fed ganrif gan y pensaer blaenllaw, Syr Percy Thomas. Gwerth Esthetig, Hanesyddol a Chymunedol.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/32954
Clwb Ceidwadol y Tyllgoed, Cartwright Lane gerllaw Heol Sain Ffagan
1938 – Pensaer: Percy Thomas – Datblygwr: S A Brain Ltd
1 cynllun ynghyd â gweddluniau
BC/S/1/33294
Llety’r gofalwr, wedi’i gysylltu â’r Chlwb Ceidwadol, Y Tyllgoed
1938 – Pensaer: P Thomas – Datblygwr: Clwb Ceidwadol
1 cynllun ynghyd â gweddluniau
BC/S/1/44404
Siop boteli arfaethedig ar gyfer siop drwyddedig, Gwesty’r Tyllgoed, Heol Sain Ffagan
1954 – Pensaer: Ivor Jones & John Bishop – Datblygwr: S A Brain & Co
1 cynllun gan gynnwys gweddluniau
DCONC/6/47a-e
Gwesty’r Tyllgoed, Heol Sain Ffagan
1946-1954 – Cynlluniau Posibl
DSA/123/7
Clwb Ceidwadol y Tyllgoed, Heol Sain Ffagan, Caerdydd
1938-1939 – [Efallai mai Brain S.A. & Co. Ltd yw’r cleient.]
5 papur sy’n ymwneud â Stephenson ac Alexander, Arwerthwyr a Syrfewyr Siartredig, Cofnodion
Delweddau ychwanego
Ffermdy ar y safle, a oedd yn cael ei feddiannu gan William James ym 1846.
Gwedd i Heol Sain Ffagan, P. Thomas 1936