Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
14 CulverhouseDyddiad
1936Ward
TreláiHanes
Adeiladwyd ar hen Ystâd Saintwell (Cyntwell), lle bu’r Caerau Arms unwaith yn gwasanaethu’r ardal o’r teras cyfagos.
Ehangwyd y ffordd yn y 1920au ac adeiladwyd tafarn a gwesty newydd ar ffurf ‘Roadhouse’ ar gyfer S.A. Brain ym 1936, yn ôl dyluniadau Ivor Jones a Syr Percy Thomas.1 Fe’i cwblhawyd ym 1937.
Yr adeiladwyr oedd y cwmni cynhyrchiol o Gaerdydd, E. Turner & Sons. Roedd Turner yn gyfrifol am adeiladu cyfres o adeiladau nodedig yng Nghaerdydd, gan gynnwys Neuadd y Ddinas, Llysoedd y Gyfraith, hen Neuadd Sir Forgannwg a’r Coleg Technegol (a ailenwyd yn Adeilad Bute yn ddiweddarach), Ysbyty Brenhinol Caerdydd, y Swyddfa Bost Gyffredinol, Cyfnewidfa Caerdydd, y Llyfrgell Rydd Ganolog a’r National Provincial Bank.
Cofnodwyd newidiadau ym 1947, yn ôl dyluniadau gan y penseiri Ivor Jones a John Bishop (o 6-7 St John’s Square, Caerdydd). Mae’r cynlluniau cysylltiedig yn dangos cynllun y llawr gwaelod ar y pryd – gyda bariau yn y tu blaen, ac Ystafell Goffi ac Ystafell Fwyta yn y cefn, wedi’u gwahanu gan goridor ar ei hyd. Roedd y fynedfa i ochr chwith y wedd flaen yn ildio i goridor ochrol a oedd yn cysylltu â’r ale fowlio yn y cefn.
Gwnaed gwaith adnewyddu helaeth yn fwyaf diweddar yn 2011.2
1Am fwy o wybodaeth am Syr Percy Thomas, gweler: https://biography.wales/article/s2-THOM-EDW-1883
2 Gweler: G. Glover. Brains: 125 Years a https://beerbrewer.blogspot.com/2011/07/culverhouse-pub-reopens.html..
Disgrifiad
Adeilad sylweddol wedi’i ysbrydoli gan y mudiad Celfyddyd a Chrefft ar ffurf cynllun petryal, mewn safle i ffwrdd o’r ffordd o fewn llain hael. Un o brif nodweddion yr adeilad yw ei do goleddf serth â theils plaen sy’n disgyn i’r llawr cyntaf. Mae ganddo dalcen yn y dwyrain a thalcen slip yn y gorllewin, lle mae hefyd yn ymgorffori adain dalcen flaen amlwg gyda chorn simnai brics wedi’i gwtogi (a fu’n sylweddol ar un adeg) gerllaw. Ceir adain dalcen arall i’r wedd orllewinol.
Ceir portsh unllawr diweddarach sy’n ymestyn ar draws llawer o’r wedd flaen. Mae’r ffenestri’n rhai adeiniog pren (?) gyda chwarelau plwm petryal i’r rhannau uchaf. Drws pren â bwa Tuduraidd gyda strapiau addurnol ar yr ochr dde, y tu hwnt i’r talcen blaen.
4 ffenestr ddormer ar oleddf wedi’u gosod yn isel o fewn llethr to’r wedd flaen, gyda phump yn y cefn. Mae adeilad yr ale fowlio gefn a oedd ar wahân ar un adeg ac sy’n gyfochrog â’r prif adeilad bellach wedi’i ymgorffori â tho gwastad.
Rheswm
Adeilad sylweddol sydd, er ei fod wedi’i addasu, yn meddu ar ddiddordeb pensaernïol fel gwesty a thafarn ‘roadhouse’ o ddechrau’r 20fed ganrif a ysbrydolwyd gan y mudiad Celfyddyd a Chrefft ac a adeiladwyd yn bwrpasol. Dyluniwyd gan Syr Percy Thomas ac adeiladwyd gan E. Turner & Sons. Gwerth Esthetig, Hanesyddol a Chymunedol.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/31344
Gwesty Culverhouse, Gwesty Culverhouse, Heol y Bont-faen
1936 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: S A Brains & Co
10 cerdyn – dim gweddluniau
BC/S/1/36463
Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty Culverhouse, Heol y Bont-faen
1947 – Pensaer: I Jones & J Bishop – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun gan gynnwys gweddluniau
DCONC/6/28a-e
Gwesty Culverhouse, Cyntwell
1936-1947
Cynlluniau posib
Delweddau ychwanego
Cynllun 1947 gan Jones a Bishop