Photo of The Crwys pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

13 The Crwys

Dyddiad

Cyn 1870

Cyfeiriad

34 Heol y Crwys, CF24 4NN

Download site boundary plan.

Ward

Cathays

Hanes

Roedd Gwesty’r Crwys yn rhan o ddatblygiad cynharaf Heol y Crwys, gan gael ei adeiladu fel rhan o floc rhwng Lucas Street a Heol Woodville cyn 1870. Ceir y dystiolaeth ddogfennol gynharaf mewn adroddiad papur newydd dyddiedig 1872.

Ym 1876, mae papurau newydd hefyd yn adrodd am ffrwydrad nwy ar y safle, a chwalodd y ffenestri a chwythu’r ffrâm drws allanol allan.

(Gweler https://roathlocalhistorysociety.org/local-history/pubs/).

Mae map cynharaf yr AO (tua 1880) yn dangos prif ran yr adeilad ar gornel Heol y Crwys a Heol Woodville, gyda chornel ffasedog yn y tu blaen (fel heddiw). Roedd y gornel hon unwaith yn lleoliad y brif fynedfa (gweler lluniau o 1890-1). Adeiladwyd y gwesty yn rhan o deras cydlynol o dai (a gollwyd i’r gogledd-orllewin erbyn hyn), gyda dwy adain gyfochrog berpendicwlar (is, mae’n debyg) yn rhedeg i’r gogledd-ddwyrain – gydag un yn ffinio â Heol Woodville. Roedd y llain yn meddiannu dyfnder cyfan y bloc (fel heddiw), gydag iard gefn wedi’i hamgáu gan nifer o adeiladau gwasanaeth.

Er y cynigiwyd/ymgymerwyd â nifer o newidiadau ddiwedd y 19eg ganrif (1886, 1891 a 1893), erbyn 1915 roedd y cynllun yr un fath o hyd yn y bôn – er bod yr adeilad i’r gogledd-orllewin o’r iard wasanaeth wedi’i golli.

Yn ystod yr 20fed ganrif (ym 1933 yn ôl pob tebyg), ehangwyd yr adeilad i’r gogledd-orllewin – i mewn i’r tŷ cyfagos. Efallai bod y parapet amlwg hefyd wedi’i ychwanegu ar yr adeg hon. Ar ryw adeg adeiladwyd estyniadau to gwastad mawr hefyd yn y cefn, gan leihau llawer o’r iard agored (a chollwyd yr adeiladau gerllaw’r lôn gefn).

Roedd gan Westy’r Crwys bedwar bar tan ddechrau’r 2000au (ibid). Gwnaed cryn waith adnewyddu ers hynny, yn fwyaf nodedig waith sylweddol i wedd y llawr gwaelod er mwyn ehangu ei ffenestri.

Disgrifiad

Gweddau wedi’u paentio a‘u rendro gyda ffenestri dalennog pren llithro (4 dros 1) i’r llawr cyntaf a pharapet plaen diweddarach i guddio’r to llechi talcen slip.

4 bae i’r wedd ddeulawr wreiddiol yn y de-orllewin (Heol y Crwys). Drysau dwbl pren 3 phanel canolog gyda ffenestri linter uwchben. Ffenestri adeiniog deublyg modern gerllaw, gyda phob un wedi’i uno gan bilastrau pren modern gyda chonsolau a ffasgia arwyddion. Estyniad to gwastad unllawr i’r gogledd-orllewin, (wedi’i osod o flaen elfen to serth deulawr gyda ffenestri wedi’u blocio i’r llawr cyntaf).

3 bae i’r wedd dde-ddwyreiniol wreiddiol (Heol Woodville). Ffenestri adeiniog mawr, modern â chwarelau sefydlog i’r llawr gwaelod, gyda phob un wedi’i huno gan bilastrau pren modern gyda chonsolau a ffasgia arwyddion. Gwedd to gwastad unllawr hir i’r gogledd-ddwyrain, sy’n cynnwys drws allanfa dân fodern a ffenestri adeiniog ychwanegol â chwarelau sefydlog, gyda phob unwaith eto wedi’i hamgylchynu gan bilastrau pren modern gyda chonsolau a ffasgiâu.

I’r ochr a’r cefn, mae wal frics coch uchel wedi’i gwneud o ddeunyddiau modern yn dal i ddiffinio’r iard wasanaeth wreiddiol, gyda mynedfa â gât fetel yn y lleoliad gwreiddiol bras.

Rheswm

Tafarn Fictoraidd o gyfansoddiad da mewn lleoliad amlwg. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 150 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

BC/S/1/5502.1

Gwesty, Heol y Crwys

1886 – Pensaer: C Rigg – Datblygwr: G Burns

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/5522

Ychwanegiadau at y Gwesty, Heol y Crwys

1886 – Pensaer: C Rigg – Datblygwr: G Burns

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/8103

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Crwys, Heol y Crwys

1891 – Pensaer: J P Jones – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/8164

Ychwanegiadau a Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Crwys, Heol y Crwys

1891 – Pensaer: J P Jones – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/8240

Newidiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Crwys, Heol y Crwys

1891 –               Pensaer: J P Jones – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/9159

Draen i’r seler, Gwesty’r Crwys, Heol yr Eglwys Newydd

1893 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: Mr Clarke

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/28787

Ychwanegiadau at y Gwesty, Gwesty’r Crwys, Heol y Crwys

1933 – Pensaer: I Jones a P Thomas – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd

1 cynllun, dim gweddluniau

DCONC/6/37a-c

Gwesty’r Crwys, Heol y Crwys

1948-1961

Cynlluniau posib

Delweddau ychwanego

Original OS plan showing the Crwys pub, Cardiff

Map yr AO c.1880

Photo of the The Crwys pub Cardiff, 1890

1890-1

Lleoliad

Dweud eich dweud