Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
12 The CroftsDyddiad
1957 ar safle tafarn gynharachWard
PlasnewyddHanes
Adeiladwyd Gwesty Crofts Hotel yn wreiddiol yn 1867 a’i gyfeiriad oedd 14-15 Crofts Street (mae’r gweithredoedd gwreiddiol o 1867 yn hongian ar wal yr ystafell ddigwyddiadau). Mae’r adeilad gwreiddiol yn cael ei ddangos ar fap 1879 yr AO.
Ym 1941, dinistriwyd y safle gan weithred y gelyn. Mae safle gwag yn cael ei ddangos ar fap yr AO a gyhoeddwyd ym 1951 (diwygiwyd 1947).
Wedi’i ailadeiladu ar gyfer Bragdy Hancock fel ei sefydliad blaenllaw a’i gwblhau ym 1957 fel The Crofts, mae bellach ar safle rhif 14-17 Crofts Street. Er bod y dafarn yn dal i gadw ei chyfeiriad gwreiddiol o 14-15, ni chafodd rhifau 16 ac 17 eu hailadeiladu erioed.
Ym 1970 newidiodd y Crofft ddwylo pan brynodd Bass Charrington y cwmni am y swm tywysogaidd o £50,000. (Ym 1968 prynwyd Bragdy Hancock gan y Bass Charrington Group a daeth yn rhan o Welsh Brewers Ltd.)
Ym mis Medi 2010 prynwyd y safle gan Wastrel Limited, cwmni preifat lleol.
https://thecroftspub.co.uk/history
Disgrifiad
Saif yr adeilad mewn llain gornel amlwg i Crofts Street a Partridge Road. Mae’n ffurfio cynllun siâp L (yn debyg i’r adeilad cynharach ar y safle) gydag estyniad to gwastad unllawr i’r gogledd (yn wynebu Crofts Street) ac ychwanegiadau unllawr diweddarach i’r cefn. Mae’r adeilad yn cynnwys dau lawr wedi’u hadeiladu mewn brocs coch Fletton wedi’u gosod mewn uniadau ar eu hyd, gyda brics llwyd yn diffinio ciliau’r ffenestri a’r bwâu gwastad o frics wedi’u torri. Mae’r ffenestri’n rhai dalennog llithro uPVC (6 dros 9 i’r llawr gwaelod, 6 dros 6 i’r llawr cyntaf).
Mae’r brif wedd (ddwyreiniol) i Crofts Road yn gyfansoddiad 5 bae cytbwys gyda mynedfa ganolog fawr wedi’i hamgylchynu gan architrafau wedi’u mowldio gyda chornis â bracedi uwchben. Ffenestri dalennog pâr uwchben. I’r gogledd, mae bloc toiledau to gwastad unllawr gyda 4 ffenestr gasment a pharapet.
Mae gan y wedd ogleddol gorn simnai amlwg gyda chopa carreg wedi’i fowldio.
Roedd y wedd ddeheuol hir (i Partridge Road) yn cynnwys chwe bae yn wreiddiol gydag estyniad wedi’i rendro diweddarach i’r llawr cyntaf (pen gorllewinol), lle ehangwyd elfen unllawr ar i fyny ym 2017, er mwyn cael gwared ar y to talcen slip.
Ar y llawr gwaelod, mae pâr o ddrysau gyda ffenestr fwa ganolog yn yr arddull Sioraidd rhyngddynt (gyda gwaith brics â gwead basged). Mae drysau Ffrengig modern (o fewn yr agoriad gwreiddiol i bob golwg) ac un drws i gerddwyr yn y gorllewin. Mae’r cyfan wedi’i orchuddio â chornisiau â bracedi. Mae drysau cerddwyr pren yn folecsiwn tri phanel wedi’u mowldio gyda ffenestri linter petryal addurnedig uwchben (â bariau gwydriad mewn patrwm diemwnt).
Mae’r to wedi’i orchuddio â theils plaen gyda bondo sy’n bargodi. To talcen slip yn y gogledd, to talcen yn y gorllewin (yn sgîl newid diweddar). Mae dau gorn simnai arall ar ran ddeheuol yr adeilad gyda chopaon carreg wedi’u mowldio.
Rheswm
Tafarn gyda gweddau wedi’u cyfansoddi’n dda sydd, er gwaethaf newidiadau diweddarach yn yr 20fed ganrif, yn cadw cymeriad sylweddol (Gwerth Esthetig). Mae’n meddu ar Werth Cymunedol gan ei fod wedi darparu dros 65 mlynedd o wasanaeth i’r gymuned.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
BC/S/1/34282
Newidiadau dros dro i westy, Gwesty’r Crofts, Crofts Street
1941 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd
1 cynllun, gan gynnwys gweddluniau
DCONC/6/31a-c
Gwesty’r Crofts, Crofts Street
1926-1941 – Cynlluniau Posibl