Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).
Cyfeirnod Adeilad
11 The CornwallDyddiad
1893Ward
GrangetownHanes
Cafodd Cornwall Street ei datblygu’n gyntaf ym 1888. Cynhyrchwyd dyluniadau ar gyfer Gwesty Saltmead, Allerton Street am y tro cyntaf gan y pensaer blaenllaw JP Jones yn yr un flwyddyn, gydag ymdrechion i drwyddedu’r adeilad yn dechrau ym 1889.
Yn ôl Sesiynau Trwyddedu Blynyddol 6 Medi 1893, roedd Gwesty Saltmead “newydd ei adeiladu am £2,000” ac yn cynnwys “llawr islawr: tri seler ac un pantri; llawr gwaelod: bar (30 troedfedd wrth 13 troedfedd, 3 modfedd), parlwr, ystafell ysmygu, dwy gegin, iard, toiled, a throethfa, tair mynedfa; llawr cyntaf: tair ystafell wely, dwy ystafell eistedd, ystafell ymolchi, tolied; ail lawr: pedair ystafell wely”.
Cyflwynwyd cynlluniau gan “Mr Henry Budgen, o’r cwmni J.P. Jones, Richards a Budgen, penseiri”.
Roedd tystiolaeth a roddwyd i’r gwrandawiad trwyddedu (aflwyddiannus) yn dangos bod 786 o dai wedi’u hadeiladu yn yr ardal ers 1885, gan greu poblogaeth amcangyfrifedig o 4,716 ac “roedd llawer iawn o dai wrthi’n cael eu hadeiladu”. Yn wir, gresynodd Joseph Hardy o Hereford Street “nad oedd digon o amser na lle” yng Ngwesty’r Neville dan ei sang i lawr yr heol ar nos Sadwrn i lenwi jariau gyda chwrw “i’w hyfed ar y Sul”. Awgrymwyd ymhellach bod angen y dafarn i fynd i’r afael â bariau slebogaidd anghyfreithlon; y ‘tai cwrw’ yn yr ardal.
Yn olaf, rhoddwyd trwydded i’r dafarn ym mis Medi 1894 fel ‘Gwesty Cornwall House’, er gwaethaf gwrthwynebiadau ficer lleol, Ffederasiwn Dirwest Caerdydd a’r Cylch a landlord The Neville, ychydig i lawr yr heol. Er i’r ynadon wrthod deiseb o 400 o gefnogwyr lleol, cafodd sêl bendith yn y pen draw.
Erbyn 1901, roedd y dafarn yn cael ei rhedeg gan ddyn a aned yn Nyfnaint, sef Joseph Martin, 32 oed. Hefyd yn byw yn y dafarn ar yr adeg hon roedd gwraig cadw tŷ o Iwerddon, gweddw a dwy farforwyn (oedd hefyd yn siarad Cymraeg) o Faesteg a Thaibach. Yn ogystal â llety teuluol ar y llawr cyntaf, roedd pedair ystafell wely lan lofft – tair at ddefnydd teithwyr.
Roedd y drwydded wedi trosglwyddo’r flwyddyn ganlynol ac ym 1902 hepgorwyd “House” o enw’r dafarn i gael ei adnabod bellach yn Westy’r Cornwall yn unig.
Ym 1902 roedd gan y dafarn ddau far, ystafell fwyta ac adrannau “jygiau a photeli”. Mae cynlluniau [anhysbys] hefyd yn dangos yr oedd yna ystafell gefn ar wahân i fenywod hefyd – lle mae rhan o’r bar blaen erbyn hyn – a gardd yn y cefn yn wreiddiol. Ym 1911, roedd yn cael ei rhedeg gan James White, 50 oed, ei ail wraig Laura a’i ferch 22 oed, i gyd yn hanu o Gaerfaddon yn wreiddiol. Roedd ganddyn nhw bedwar gwas yn byw gyda nhw i helpu i redeg y lle.
Mae’n debyg i far a lolfa ar wahân y Cornwall gael eu huno yn ystod gwaith adnewyddu ym 1999.
(Gweler http://www.grangetowncardiff.co.uk/grangepubs.htm)
Disgrifiad
Mae prif ran yr adeilad wedi’i lleoli’n amlwg ar gornel Cornwall Street a Hereford Street, Grangetown. Mae’n sgwâr o ran cynllun gyda chornel ffasedog i’r gyffordd.
Mae adain unionsyth deulawr is yn ymestyn i’r gogledd-orllewin, wedi’i gosod yn ôl o Hereford Street. Mae estyniadau to fflat modern yn llenwi gweddill y plot, gan gynnwys y gofod rhwng yr adain gefn a’r ffordd.
Mae’r prif adeilad yn cynnwys brics coch cwasgedig wedi eu gosod yn arddull Fflandrys, gyda bwâu brics wedi’u torri’n fflat uwchben ffenestri adeiniog modern (pren ar y llawr gwaelod, uPVC ar y llawr cyntaf).
Mae gweddluniau’r llawr gwaelod wedi’u paentio’n wyn, gyda phâr o fargodion carreg wedi’u mowldio uwchben, yn ddiffinio bandiau brics plaen sy’n darparu ar gyfer arwyddion modern.
Mae’r brif fynedfa wedi’i lleoli yng nghornel ffasedog ddeheuol yr adeilad, sydd ag ymwthiad i’r ddau brif weddlun. Yma, drysau dwbl gyda mowldin bolecsiwn tri phanel â ffenestr linter betryal estyllog drostynt (a llusern fawr). Mae canopi talcennog teils plaen drosto, wedi’i gynnal gyda bracedi pren bwaog a rhychiog ar gorbelau cerrig.
Mae gan y to fondo llydan, wedi’i fowldio a gorchudd llechi. Ceir talcen bach dros y gornel ffasedog a dau gorn simnai sylweddol i’r gogledd-orllewin a’r gogledd-ddwyrain.
Rheswm
Tafarn Fictoraidd ddeniadol ar lain gornel amlwg, a ddyluniwyd yn ôl pob tebyg gan y pensaer blaenllaw o Gaerdydd, J.P. Jones (neu un o’i bartneriaid). Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 128 o flynyddoedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.
Cyfeirnodau
Archifau Morgannwg
Tystiolaeth Archifol
Archifau Morgannwg
BC/S/1/6632
Gwesty, Gwesty Saltmead, Allerton Street
1888 – Pensaer: J P Jones – Datblygwr: Hancock & Co Ltd
3 chynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/7381
Gwesty, Cornwall Road
1889 – Pensaer: S Jones – Datblygwr: D J Davies
2 gynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/7649
Gwesty, Cornwall Road
1890 – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: J E Turner
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/8242
Draenio i’r Gwesty, Gwesty Saltmead, Cornwall Street
1891 – Pensaer: W D Blessley – Datblygwr: Castle Brewery Co.
1 cynllun, dim gweddluniau
DEGS/15/5/3
14 Awst 1891
Hysbysiad gan Samuel Marks am dynnu trwydded o’r Rock and Fountain i Westy Saltmead, Hereford Street, Saltmead, Treganna.
DEGS/15/5/4
16 Awst 1891
Rhoddwyd hysbysiad i Oruchwylwyr Tlodion Treganna gan Samuel Dyer Churchill y dylid dileu’r drwydded a ddelir gan Thomas Williams yn y Rock and Fountain i Westy Saltmead, Cornwall Street a Hereford Street, Saltmead.
BC/S/1/10177
1894 – Newidiadau i eiddo, Cornwall House, Hereford Street
Pensaer: J P Jones, Richards & Budgen – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
BC/S/1/16507
Storfa, Gwesty Cornwall, Cornwall Street
1907 – Pensaer: R & S Williams – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
1 cynllun, dim gweddluniau
BC/S/1/27420
Newidiadau ac ychwanegiadau i’r gwesty, Gwesty Cornwall, Cornwall Street
1930 – Pensaer: I Jones a P Thomas – Datblygwr: S A Brain & Co Ltd
3 chynllun, dim gweddluniau
DCONC/6/26a,b
Gwesty Cornwall, Saltmead Road
1930 – Cynlluniau Posibl
D1026/4/243
Gwesty Cornwall
1970-1999
Ffotograff, 1991; Toriad o bapur newydd, 1999; Hanes yr enw, 1982
D1026/4/240
Tafarndai 2
Rhestr, 1884; Erthygl am dafarndai Grangetown; Erthygl “My Cardiff” am Ddeddf Cau Tafarnau ar y Sul, 1998; Cyfeiriadur Bragdai Cymru; Tafarn Cernyw; The Prince of Ales
DSA/12/432
Fflatiau yn Grangetown, Caerdydd.
1887-1890
Gwerthu rhenti tir.
(Robert W. Griffiths ac E.W.M. Corbett).
Gan gynnwys Cornwall Street (y cyfan ar yr hyn a elwid gynt yn Saltmead), Grangetown, Caerdydd.
Rhan o glawr ffeil (ar gyfer gwerthiant 15 Gorffennaf 1890).
Gohebiaeth 21 Ebr 1887-10 Gorff 1890.
1. Roedd manylion ac amodau gwerthu ar gyfer arwerthiant gyda chynlluniau/cynllun allweddol eraill sydd bellach yn 7 ac 8 Gorffennaf 1887 yn nodi ‘D.T. Alexander Ysw.,’ gyda’r manylion yn cael eu hychwanegu mewn inc a phensil.
Ac ati…
[Gweler hefyd werthu llyfr 8 (cyf. DSA/8/8) f.133-140 ar gyfer gwerthiant 1887 a llyfr gwerthu 10 (cyf DSA/8/10) f.48 ar gyfer gwerthiant 1892]