Photo of The Clifton pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

09 The Clifton

Dyddiad

1850au

Cyfeiriad

1 Stryd Clifton, CF24 1PW

Download site boundary plan.

Ward

Adamsdown

Hanes

Ychydig iawn sy’n hysbys am hanes a datblygiad y sefydliad hwn o gyfnod cynnar/canol oes Fictoria. Mae’r dystiolaeth ddogfennol gynharaf y gwyddys amdani ar gyfer Gwesty’r Clifton yn ymddangos mewn hysbyseb papur newydd dyddiedig Awst 1858 (Evening Express, 22 Awst).

 

Mae map 1875 yr AO yn dangos trefniant sy’n debyg i’r hyn sydd gennym heddiw, ond gydag estyniad hir tua’r gogledd a’r de yng nghefn ei ben dwyreiniol sy’n ymestyn y tu ôl i’r lleiniau tai i Stryd Clifton.

 

Dyluniwyd mân addasiadau ac ychwanegiadau gan y Penseiri James & Morgan ym 1888, sy’n rhoi cipolwg ar ffurf gynllun yr adeilad ar yr adeg honno. Roedd gan lawr gwaelod y prif adeilad ddau far yn y brif gornel, gydag Ystafell Fwyta yn y cefn. Roedd y rhan ddwyreiniol gyferbyn â Heol Lydan yn cynnwys Ystafell Ysmygu a’r ‘Vaults’, gyda Cheginau, Storfa ac Ystafell Botelu wedi’u cyfyngu i’r estyniad hir oedd yn ymestyn o’r gogledd i’r de. Roedd yr iard gyfagos hefyd yn rhan o’r sefydliad.

 

Ailadeiladwyd rhan ddwyreiniol yr adeilad (gyferbyn â Heol Lydan) yn yr 20fed ganrif pan gollwyd estyniad hir y ceginau hefyd, mae’n debyg.

Disgrifiad

Mae rhan wreiddiol yr adeilad hwn o gyfnod cynnar/canol oes Fictoria yn cynnwys tri llawr wedi’u trefnu mewn cynllun sgwâr gyda chornel ffasedog yn flaenllaw. Mae mewn safle amlwg ar gornel Heol Lydan a Stryd Clifton, gydag estyniad unllawr modern yn ymestyn i’r dwyrain gyferbyn â Heol Lydan.

 

Mae gan y brif ran do llechi â thalcen slip gyda bondo dwfn â bracedi sy’n bargodi, waliau wedi’u rendro a mowldin capan sgwâr plaen i’r ffenestri (a ffurfiwyd mewn rendrad).

 

Mae’r gweddau’n cynnwys tri bae. Mae gan y wedd orllewinol (i Stryd Clifton) ffenestri adeiniog pren teiran i’r llawr gwaelod sy’n cynnwys croeslathau a myliynau wedi’u mowldio, ffenestri dalennog uchaf pennau cylchrannol a chwarelau plwm petryal gyda phaneli ‘Brains’ gwydr lliw. Mae gan y fynedfa ganolog ddrysau dwbl pren â phaneli canolog wedi’u codi gyda ffenestr linter betryal blwm uwchben panel gwydr lliw sy’n cynnwys y gair ‘LOUNGE’.

 

Mae’r wedd ogleddol (i Heol Lydan) wedi’i nodi yn yr un modd, ond yn lle’r drws canolog mae un ffenestr adeiniog.

 

Mae ffenestri dalennog pren (sy’n debygol o fod yn wreiddiol) gyda chwarelau ymylol i’r llawr cyntaf. Mae holl ffenestri’r ail lawr wedi cael eu blocio, sy’n rhyfedd.

 

Mae’r estyniad unllawr modern i’r dwyrain wedi’i ffurfio o frics llwydfelyn gyda tho talcen bas.

Rheswm

Tafarn amlwg sy’n gwneud defnydd da o’i llain gornel. Er bod ffenestri’r llawr uchaf bellach wedi’u blocio, mae’r adeilad yn cadw gweddau o gyfansoddiad da o gyfnod cynnar/canol oes Fictoria. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 170 mlynedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

BC/S/1/6833

1888 – Addasiadau ac ychwanegiadau i Westy’r Clifton, Gwesty’r Clifton, Stryd Clifton – Pensaer: James & Morgan – Datblygwr: C Davies

2 gynllun, dim gweddluniau

Delweddau ychwanego

Map 1875 yr AO

 

Original Drawing of The Clifton pub in Cardiff

Cynllun 1888 o newidiadau arfaethedig yn dangos y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf

Lleoliad