Photo of the Claude pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

08 The Claude

Dyddiad

1890

Cyfeiriad

140 Heol Albany, CF24 3RW

Download site boundary plan.

Ward

Plasnewydd

Hanes

Adeiladwyd ym 1890 yn ôl dyluniadau’r pensaer T. Waring a’i Fab.1 Roedd gan ffurf wreiddiol yr adeilad Ystafell Ysmygu a Pharlwr yn y pen gorllewinol, gyda dau far mawr o fewn y rhan grom yn y gogledd-orllewin.

 

Gwnaed nifer o newidiadau ac ychwanegiadau i’r adeilad, gan gynnwys Modurdy newydd ym 1912, a mân waith pellach ym 1924, 1925 a 1938.

 

Yn ôl Cymdeithas Hanes y Rhath: Mae Gwesty’r Claude yn adeilad Fictoraidd cain, na fu fawr o newid i’r tu allan i’r prif adeilad ers iddo gael ei adeiladu ym 1890.

 

Roedd ardal fawr y bar o ganlyniad i waith adnewyddu ym 1994 ac uno’r bar cyhoeddus, ystafell gefn fenywod, y siop drwyddedig a’r ale fowlio yn y cefn. Fodd bynnag, mae cwsmeriaid rheolaidd bob amser wedi mynnu na ddylid newid yr Ystafell Dderw (yr Ystafell Ysmygu a’r Parlwr), a oedd yn lolfa i ddynion yn unig hyd at ddechrau’r 1970au – er y dylid nodi ei bod yn amlwg yr ychwanegwyd ffenestri bae rhwng 1889 a 1933.

 

Mae’r enw’n tarddu o Claude Williams o’r teulu Williams a oedd yn byw yn Llys y Rhath (parlwr angladdau James Summers erbyn hyn) ac yn berchen ar ystâd Llys y Rhath. Pan oedd Charles Henry Williams yn gwerthu darnau o’r ystâd ar gyfer tai, enwyd amryw strydoedd a thafarndai ar ôl aelodau o’r teulu e.e. Crofts, Rose, Claude. (FFYNHONNELL)

 

Deëllir bod CAMRA a Cymdeithas Ddinesig Caerdydd yn ystyried llunio cais rhestru mannau ar gyfer Cadw ym 2023.

 

 

[1] Yn gyfrifol am gannoedd o gartrefi ar draws Caerdydd, y Porth a Marwdai Mynwent Cathays (gydag R.G. Thomas); 81, 83-84 Heol Eglwys Fair (gyda Blessley – wedi’i briodoli); Arcêd y Stryd Fawr (gyda JP Jones) a Theatr Tywysog Cymru (hefyd gyda Blessley). Gweler: https://cathayscemetery.coffeecup.com/thomaswaring.html

Disgrifiad

Adeiladwyd y dafarn ym 1890 gan ddefnyddio tywodfaen Pennant a charreg nadd a ddefnyddiwyd ar y conglfeini ac agoriadau’r drysau a’r ffenestri. Mae gan yr adeilad trillawr du blaen â thalcen dwbl gyda simneiau amlwg a gwaith haearn gyr. Mae gan y prif dalcen fae llawr gwaelod â ffenestri dalennog mewn amrywiol arddulliau drwyddi draw gan gynnwys ffenestri bwa Gothig ar y llawr cyntaf a ffenestri petryal ar yr ail law. Mae hyn wedi’i orffen gyda therfyniad byr o sylfaen, bloc a phelen. Mae’r to wedi’i orchuddio gan lechi Cymreig. Mae’r simneiau wedi’u gwneud o garreg Pennant; ar y crib mae gwaith haearn gyr addurnol. [Disgrifiad o restr leol 1997]

Rheswm

Tafarn sylweddol, amlwg ac addurnedig a adeiladwyd yn bwrpasol gan bensaer nodedig o Gaerdydd. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae tua 132 o flynyddoedd o wasanaeth yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/1/7405

1889 – Gwesty Newydd, Gwesty’r Claude, Heol Albany – Pensaer: T Waring & Sons – Datblygwr: Phillips & Co. Gweddluniau: 0. Cynlluniau: 4

 

BC/S/1/14133

1900 – Troethfa, Gwesty’r Claude, Heol Albany – Pensaer: R & S Williams – Datblygwr: Ely Brewery Co Ltd. Gweddau: 0. Cynlluniau: 1

 

BC/S/1/17252

1909 – Newidiadau i Westy, Gwesty’r Claude, Heol Albany – Pensaer: S Williams – Datblygwr: Ely Brewery Co Ltd.

Gweddau: 0. Cynlluniau: 4

 

BC/S/1/18139

1912 – Modurdy, Gwesty’r Claude, Heol Albany – Pensaer: W Ware & Williams – Datblygwr: Mr Douthwaite.

Gweddau: 0. Cynlluniau: 1

 

BC/S/1/23214

1924 – Newidiadau i Westy, Gwesty’r Claude, Heol Albany – Pensaer: Willmott & Smith – Datblygwr: Rhondda Valley & Ely Breweries Ltd.

Gweddau: 0. Cynlluniau: 1

Delweddau ychwanego

Original drawing of The Claude pub, Cardiff

Cynllun llawr gwaelod arfaethedig 1889 gan T. Waring

Lleoliad