Photo of The Cottage pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

07 The Cottage

Dyddiad

1870au

Cyfeiriad

11 Sanquhar St, Caerdydd CF24 2AA

Download site boundary plan.

Ward

Sblot

Hanes

Dywedir bod gwesty The Cottage yn Sanquhar Street, y Sblot yn dyddio o ddechrau’r 1870au. Un o’r landlordiaid cyntaf oedd Charles Jenkins o Bont-y-pŵl.1

Fodd bynnag, mae map yr AO a arolygwyd ym 1879 yn dangos dau adeilad ar wahân ar y safle (nad yw’r naill na’r llall wedi’i labelu fel tafarn). Efallai y cawsant eu hadeiladu’n wreiddiol fel mangreoedd manwerthu (gydag iardiau mawr yn y cefn ac adeiladau ategol) a’u cyfuno yn ddiweddarach.

Nid yw’n glir pryd y cafodd y ddau adeilad eu huno i ffurfio tafarn (os o gwbl), ond roedd gwesty The Cottage mewn busnes erbyn 1880 (Western Mail, 29/03/1880).

Mae newidiadau a gofnodwyd ym 1888 yn dangos bod yr adeiladau cyfredol wedi’u cyfuno, gyda bar mawr yn rhan orllewinol y llawr gwaelod; ac Ystafell Ysmygu, Ystafell Eistedd, Cegin a Sied Gerti yn y rhan ddwyreiniol (gyda stablau yn yr iard gefn). Ar y llawr cyntaf, roedd Ystafell Glwb fawr dros y Bar i’r gorllewin a nifer o ystafelloedd gwely.

Cofnodwyd newidiadau pellach ym 1888, 1903, 1926 a 1938, yr ymddengys y buont yn canolbwyntio ar ehangu i’r iard gefn (gweler cofnodion Archifau Morgannwg).

1Gweler gwefan Cymdeithas Hanes Lleol y Rhath.

Disgrifiad

Mae The Cottage wedi’i ffurfio o ddau adeilad deulawr a oedd unwaith ar wahân efallai ond sydd bellach wedi’u cyfuno i greu adeilad hir o’r dwyrain i’r gorllewin gan ffurfio pen deheuol terasau Cumnock Terrace a Kingarth Street, gyferbyn â Stryd Sanquhar. Yn ei ben gorllewinol, ceir adain ogleddol arall sy’n troi i Cumnock Terrace. Mae gan ran ddeulawr wreiddiol yr adeilad gorneli ffasedog i’r de ac mae’r adeilad wedi’i orchuddio gan do serth llechi â thalcen slip gyda theils crib coch penben. Mae pob corn simnai wedi cael ei golli (ers y 1970au). Mae’r iard gefn a fu’n agored ar un adeg bellach wedi’i llenwi’n llwyr gan ddatblygiad unllawr to fflat.

 

Mae’r prif wedd ddeheuol yn gymesur o ran ffurf (efallai oherwydd cael ei ffurfio o ddau adeilad ar led-wahan o’r un ffurf â 17 a 19 Stryd Sanquhar). Roedd y drws dwbl canolog ar un adeg yn ddau ddrws i gerddwyr, ond mae bellach wedi’i gyfuno â chapan drws gwaith maen mawr plaen uwchben (â mewnlenwad brics ar ei ben). Trwy gydol rhan ddeulawr wreiddiol yr adeilad, mae’r plinth llawr gwaelod wedi’i wneud o garreg rwbel aml-liwiog ar hap, gyda cherrig Pennant llanw ar weddau’r llawr gwaelod. Ar ben hwn mae platband mewn rendrad plaen, gyda gorffeniad rendro i’r llawr cyntaf.

 

Mae gan ffenestri’r llawr gwaelod fframiau brics, gyda phennau brics wedi’u torri (sy’n cynnwys meini clo anferth) a siliau cerrig. Mae’r ffenestri’n gasmentau pren modern ar y llawr gwaelod, ac yn gasment uPVC i bob golwg ar y llawr cyntaf.

 

Mae drws o hyd i’r gornel ffasedog i’r gorllewin, sydd wedi’i fewnlenwi yn y rhan ddwyreiniol gyda ffenestr fodern.

Rheswm

Mae o leiaf 142 o flynyddoedd o wasanaeth parhaus yn rhoi Gwerth Hanesyddol a Chymunedol sylweddol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

BC/S/1/6756

Newidiadau ac ychwanegiadau i westy, Gwesty The Cottage, Stryd Sanquahar

1888 – Pensaer: T Waring & Sons – Datblygwr: Mr Jenkins

3 chynllun, dim gweddluniau

 

BC/S/1/15390

Newidiadau i westy, Gwesty The Cottage, Stryd Sanquahar

1903 – Pensaer: R & S Williams – Datblygwr: W Evans

1 cynllun, dim gweddluniau

 

BC/S/1/24446

Ychwanegiadau at westy, Gwesty The Cottage, Stryd Sanquahar

1926 – Pensaer: Anhysbys. Datblygwr:  W Hancock & Co Ltd

1 cynllun, dim gweddluniau

 

BC/S/1/33185

Newidiadau i westy, Gwesty The Cottage, Stryd Sanquahar

1938 – Pensaer: G Stanley – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd

2 gynllun, dim gweddluniau

 

BC/S/1/37754

Arwydd, Gwesty The Cottage, Stryd Sanquahar

1948 – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd

2 gynllun gan gynnwys gweddluniau

 

DCONC/6/28a-c

Gwesty The Cottage, Stryd Sanquahar

1926-1939 – Cynlluniau Posibl

Delweddau ychwanego

Original drawing of The Cottage Pub, Cardiff

Cynllun Bloc Presennol, 1888

Lleoliad