Photo of the Canton Cross Vaults pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

06 Canton Cross Vaults

Dyddiad

Credir ei fod yn dyddio o 1860.

Cyfeiriad

1 Heol Lecwydd, CF11 8HJ

Download site boundary plan.

Ward

Treganna

Hanes

Credir ei fod yn dyddio o 18551 neu 1860.2 Mae’n amlwg o fap 1879 yr AO fod y Dafarn o fewn rhan fach yn unig o adeilad helaeth (i’w ben mwyaf cromfannol yn y gogledd). Roedd bragdy yn meddiannu llawer o’r safle ar yr adeg hon, lle mae adeiladau warws presennol yn wynebu Heol Lecwydd heddiw (a adwaenid yn Cross Street bryd hynny). I’r gorllewin roedd iard, wedi’i hamgáu’n rhannol gan adeiladau eraill i’r gorllewin a’r de, gyda mynedfa â gât i’r gogledd.

 

Ym 1891, gwnaed newidiadau i’r bragdy gan y pensaer Gadlam a’i Fab (Datblygwr: Pearce & Co.)

 

Yn 1895, fe ddaeth Canton Cross Brewery – a oedd dal yn eiddo i Messrs. Pearce and Co. Ltd – i ben. Fe’i gwerthwyd ym 1904 i Messrs. W. Hancock and Co. ac fe’i caewyd ar unwaith. Wedi’i osod allan gyda’r ‘peiriannau diweddaraf… i gynhyrchu 400 casgen yr wythnos’ (yn ôl pob tebyg fel rhan o’r addasiadau ym 1891), symudwyd yr offer i sefydliad Hancock ei hun a phrydleswyd adeilad gwag y bragdy.

 

Yn ystod oriau mân 27 Mehefin 1908, aeth hen adeilad y bragdy (a oedd yn cael ei ddefnyddio fel warws dodrefn erbyn hynny) ar dân. Ymledodd tân yn gyflym i adeilad y stablau ac i do Gwesty Canton Cross, gan achosi mân ddifrod i’r ddau adeilad. Roedd hen adeilad y bragdy yn ‘practically gutted’. Yn ôl pob sôn, ni chafodd ceffylau yn adeilad y stablau eu niweidio.

 

Ailadeiladwyd yr hen fragdy y flwyddyn ganlynol (1909), yn ôl dyluniadau gan y Penseiri Veall & Saint (tybir mai dyma’r rhai sy’n wynebu Heol Lecwydd heddiw) ac mae’n ymddangos bod o leiaf rhywfaint o’r adeilad wedi’i gadw fel tafarn estynedig. Erbyn map 1915 yr AO, roedd yn glir bod yr adeiladau newydd hyn yn llenwi llawer mwy o’r iard gefn a chollwyd yr adeiladau ategol cynnar.

 

1 Gweler Pubs Cymru.

2  Gweler https://coflein.gov.uk/cy/safle/309379/?term=canton%20cross

Disgrifiad

Mae Canton Cross Vaults yn adeilad deulawr gyda tho llechi ym mhen y teras i Heol Lecwydd gyda phen cromfannol anghymesur i’r gogledd. Fe’i cyfansoddir yn bennaf o rwbel (calchfaen?) cymysg, gyda charreg nadd ar ei gonglfeini a’i fframiau ffenestri.

 

Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys amrywiaeth o agoriadau gyda phennau cylchrannol – ffenestri teiran mawr (wedi’u hamgylchynu gan siamffrau crwn gyda stopiau addurnol), a 2 ddrws wedi’u blocio gyda drws mynediad sydd wedi goroesi ym mhen mwyaf deheuol y wedd ddwyreiniol.

 

Mae gan ffenestri’r llawr cyntaf fframiau carreg sgwâr plaen, gydag rhai ffenestri pren sydd wedi goroesi yn dal i’w gweld.

 

Mae estyniad deulawr â tho serth yn ymestyn i’r hyn sydd ar ôl o’r iard yn y gorllewin, lle mae nifer o ychwanegiadau unllaw’r modern eraill hefyd i’w gweld.

 

Mae’r fynedfa fwaog i’r iard gefn yn dal i oroesi, wedi’i ffurfio o frics coch ac wedi’i gau gan gatiau â ffrâm, canllawiau a chreffynnau gyda strapiau addurnol.

Rheswm

Er ei fod yn fychan ac wedi’i newid yn fawr, mae’r adeilad hwn yn dal i fod â Gwerth Hanesyddol oherwydd datblygiad tafarn gynnar yn Nhreganna, yr honnir ei bod yn un o’r tafarndai hynaf sydd wedi goroesi yn y ddinas. Mae tua 130 mlynedd o ddefnydd parhaus yn rhoi Gwerth Cymunedol cryf i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Tystiolaeth ddogfennol

Archifau Morgannwg

BC/S/1/8283

1891 – Newidiadau i Fragdy, Bragdy Canton Cross, Treganna – Pensaer: Garlam & Son – Datblygwr: Pearce & Co.

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/9317

1893 – Ystafelloedd Ymolchi, Bragdy Canton Cross, Alpha Street – Pensaer: Anhysbys – Datblygwr: Pearce & Co.

1 cynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/12042

1897 – Stablau yn y Bragdy, Bragdy Canton Cross, Cross Street – Pensaer: J H Anderson – Datblygwr: Bowden & Co.

4 cynllun gan gynnwys gweddluniau

BC/S/1/12347

1897 – Newidiadau i fragdy, Bragdy Canton Cross, Heol y Bont-faen – Pensaer: J H Anderson – Datblygwr: Bowden, Wain & Watkins

3 chynllun, dim gweddluniau

BC/S/1/12499

1897 – Newidiadau ac Ychwanegiadau i Dafarn, Tafarn y Canton Cross, Heol Lecwydd – Pensaer: J H Anderson – Datblygwr: Bowden, Wain & Watkins

2 gynllun gan gynnwys gweddluniau

BC/S/1/17344

1909 – Ailadeiladu Bragdy, Bragdy Canton Cross, Heol Lecwydd – Pensaer: Veall & Saint – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd.

2 gynllun gan gynnwys gweddluniau.

BC/S/1/19754

1917 – Newid siopau’n dafarn, Tafarn Canton Cross, Heol y Bont-faen – Pensaer: S Williams – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd

1 cynllun, dim gweddlun

BC/S/1/37752

1948 – Arwydd, Canton Cross Vaults, Heol Lecwydd – Pensaer: G R H Rogers – Datblygwr: W Hancock & Co Ltd

2 gynllun gan gynnwys gweddluniau

DCONC/6/16a-d

1949-1958 – Canton Cross – Cynlluniau posibl

DX683/4/1-4

1961 – Ffotograffau o lifogydd yn Nhreganna, Caerdydd ym 1961. Mae’r strydoedd canlynol yn cael eu dangos: Heol Atlas a Stryd Wellington, Heol y Bont-faen, Earl Place a Heol Lecwydd (yn dangos Gwesty’r Boar’s Head), Heol Lecwydd (yn dangos Gwesty Canton Cross)

Delweddau ychwanego

1879 Map yr AO

Lleoliad

Dweud eich dweud