Photo of the Canton pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

05 The Canton

Dyddiad

Cyn 1876

Cyfeiriad

6 Heol Llandaf, CF11 9NG

Download site boundary plan.

Ward

Treganna

Hanes

Ychydig a wyddys am hanes y fangre hon, ond yn sicr fe’i hadeiladwyd cyn 1876, pan gynigiwyd newidiadau gan y pensaer R. Fisher.

 

Ar yr adeg honno, roedd gan yr adeilad yr un ffurf a maint cyffredinol ag sydd ganddo heddiw, gyda ffurf gynllun llawr gwaelod syml yn cynnwys Bar yn y tu blaen, ystafell ysmygu y tu ôl i hwn a choridor yn y cefn, gan alluogi mynediad i’r Ystafell Gwrw a’r Ystafell Fyw. Roedd yna Gegin Gefn fach ymhellach i’r cefn eto, gyda Phantri, Cegin Gefn a Stabl yn yr iard gefn.

 

Mae llun o 1890 yn dangos nad oes llawer wedi newid i ffurf gyffredinol y tu allan (neu’r estyniad deulawr i’r cefn), er bod nifer o fân fanylion wedi’u colli dros amser, gan gynnwys stwco cerrig nadd i lefel y llawr gwaelod, blocio drysau mewn ffordd anghelfydd, colli ffenestri dalennog 8-dros-8 deniadol (gyda chwarelau ymylol), a cholli bracedi i’r bondo.

Disgrifiad

Adeilad pen teras trillawr â rendrad plastr garw o ganol oes Fictoria gyda tho llechi talcen slip â soffitiau estyll. Bracedi’r bondo ar goll. Corn simnai a rennir â Rhif 8 Heol Llandaf a simnai sengl, dal i’r cefn.

 

Gwedd flaen (orllewinol) â thair ffenestr fae, uPVC. Collwyd y ffenestri dalennog pren â chwarelau ymylol ar y llawr cyntaf a’r ail lawr rhwng 2011 a 2016 (mae un ar ôl yn y wedd gefn).

 

Ffenestr adeiniog ganolog ar y llawr gwaelod gyda chwarelau plwm. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol gyda dwy fynedfa. Mae gan yr ochr dde ddrysau pren sgwâr a phantiog dwbl. Mae’r ochr chwith wedi’i blocio (gydag uned echdynnu i ffenestr linter wedi’i byrddio).

 

Gwedd ochr (ddeheuol) â dau fae i’r brif ran. Dwy ffenestr adeiniog i’r llawr gwaelod gyda chwarelau plwm. Mae ffenestr yr ochr dde yn cadw cwarelau lliw ‘Brains‘. Mae’r drws canolog wedi’i flocio gyda ffenestr linter betryal blwm uwch ei ben.

 

Mae estyniad deulawr i’r cefn (gyferbyn â Gray Lane) sy’n debygol o fod yn rhan wreiddiol o’r adeilad. Mae ei ddrws wedi’i flocio ac mae un ffenestr blwm wreiddiol ar y llawr gwaelod (sy’n nodi ‘Smoke Room’).

 

Mae penty unllawr i’r dwyrain gyda drws pren â chwe phanel a ffenestr linter wydrog uwchben.

 

Mae penty unllawr arall gydag ychwanegiadau modern yn yr iard gefn.

Rheswm

Mae o leiaf 146 o flynyddoedd fel tafarn yn rhoi Gwerth Hanesyddol a Chymunedol sylweddol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

BC/S/1/440

1876 – Newidiadau i westy, Gwesty’r Canton, Heol Llandaf – Pensaer: R Fisher – Datblygwr: S Marks

1 Cynllun

 

DSA/12/2472

Gwesty’r Canton, Heol Llandaf, Treganna; 2, 4, 8 a 10 Heol Llandaf, 184 Heol y Bont-faen a 64 a 66 Severn Road, Treganna, Caerdydd

1913-1914

Gwerthiant. (Lewis and Finlayson) 22/1A. Clawr ffeil yn rhannol.

Gohebiaeth 18 Mai 1913 – 23 Ionawr 1914.

1. Hysbysiad o werthiant a manylion yr eiddo, ar gyfer arwerthiant 15 Rhag 1913:-

(a) wedi’i farcio’n ‘Biddings HGA’ ac yn dangos y cynigion ar gyfer yr eiddo, y pris gwerthu a’r prynwr

(b) wedi’i farcio’n ‘SE’ gyda chrynodeb o gynnig mewn coch ac

(c) wedi’i farcio’n ‘J. Alexander Private’ gyda gwybodaeth ychwanegol wedi’i hatodi.

2. Drafft o’r Bil Gwerthu a baratowyd gan Dauncey and Co.

3. Drafft o amodau gwerthu arbennig Waldron & Co.

4. Manylion y llety.

5. Cynlluniau o eitemau 1 i 3.

[Gweler hefyd Llyfr Gwerthu 23 (Cyf. DSA/8/23) fs. 69.71]

Delweddau ychwanego

Original drawing of The Canton PH, Cardiff

Cynllun arfaethedig o 1876 gan R. Fisher

Map 1879 yr AO

 

Lleoliad