Photo of the Butchers Arms pub, Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

04 The Butchers Arms

Dyddiad

Ailadeiladwyd 1932

Cyfeiriad

22 Heol-y-Felin, CF14 6NB

Download site boundary plan.

Ward

Rhiwbeina

Hanes

Nid yw’n glir beth yn union oedd yn sefyll ar y safle cyn yr adeilad presennol, ond mae map 1898 yr AO yn dangos tafarn o’r un enw yn y lleoliad hwn.

 

Ailadeiladwyd y safle ym 1932 yn ôl dyluniadau’r pensaer T. Elvet Llewellyn1 (o 59 Heol y Frenhines, Caerdydd) gan George Beames Yswain.2

 

Adeiladwyd y safle i’r ffurf gyffredinol a welir heddiw. Roedd gan y llawr gwaelod gyntedd fynedfa ganolog, gydag Ystafell De ac Ystafell Ysmygu gerllaw. Roedd yr annedd breifat yn y cefn (gogledd) ac roedd bar cyhoeddus ac ale fowlio yn y cefn (de). Yn wreiddiol, roedd gan yr adeilad ffenestri plwm â sawl cwarel yn nhu blaen y llawr gwaelod a ffenestri dalennog mewn mannau eraill (sydd wedi’u colli erbyn hyn). Roedd mynedfeydd ochr ar hyd y tu blaen ymwthiol, a oedd yn galluogi mynediad i lobïau o fewn yr adenydd ochr (sydd bellach wedi’u hamgáu gan ychwanegiadau diweddarach). Roedd gweithdy a garej yn yr iard gefn, gyda ‘man golchi’ pwrpasol ar gyfer ceir modur.

 

Gwnaed mân newidiadau ym 1943 gan yr un pensaer, gan gynnwys adolygu’r ceginau/cegin gefn breifat a siop danwydd newydd ynghlwm wrth y garej.

 

1 Am George Beames y mab, gweler yr Albany a’r New Inn, Heol Caerffili.

2 Dyluniodd Llewellyn nifer o dai a blociau o fflatiau ar draws Caerdydd yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd ac ar ôl y rhyfel diwethaf.

Disgrifiad

Dyluniwyd The Butchers Arms, Rhiwbeina gan y pensaer T. Elvet Llewellyn (ac fe’i adeiladwyd gan George Beames Yswain) yn yr arddull Celfyddyd a Chrefft gyda manylion clasurol. Mae gan yr adeilad wedd flaen tri bae cymesur gyda thri tho talcen slip serth â sbrocedi sy’n rhedeg yn ôl tuag at adain gefn ochrol. Mae’r bae canolog ychydig yn gilfachog. Mae toeau wedi’u gorchuddio gan deils plaen, gyda chyrn simneiau â phlastr garw ar ben y ddwy adain allanol gyda manylion corbelog i’r corunau mewn brics brown. Mae’r talcenni blaen yn cynnwys agennau awyru dellt.

 

Ar lefel y llawr cyntaf, mae ffenestri adeiniog teiran plwm sy’n agor o’r pen gyda myliynau carreg plaen a chapanau â rendrad ffurf cloch. Mae ffenestri adeiniog ychwanegol wedi’u gosod i’r ddwy ochr yn y bae canolog.

 

Ar y llawr gwaelod, mae portico canolog â tho gwastad gyda goruwchadail ffrîs plaen a 4 colofn Doraidd annibynnol (yn ongl sgwâr â’r tu allan). Mae’r drws ffrynt wedi’i ffurfio mewn pren gyda gwydriad chwe chwarel a thri phanel islaw. Mae ganddo ffrâm ddrws bilaster gydag arwyddion uwchben. Mae gan y baeau allanol ffenestri bae petryal gyda thoeau gwastad a fframiau wedi’u mowldio i’r casmentau 4 rhan (hefyd gyda myliynau maen).

 

Wedi’i osod yn ôl o’r wedd flaen, mae’r toeau serth yn gostwng i ddwy ochr yr adeilad i greu adenydd bach.

 

Mae nifer o ychwanegiadau unllawr diweddarach at yr ochrau a’r cefn.

 

Rheswm

Tafarn ddeniadol wedi’i hysbrydoli gan y mudiad Celfydydd a Chrefft mewn lleoliad amlwg a adeiladwyd gan bensaer cynhyrchiol o Gaerdydd. Bu tafarn o’r un enw yn y lleoliad hwn ers o leiaf 124 o flynyddoedd. Gwerth Esthetig a Hanesyddol. Mae’r adeilad presennol wedi gwasanaethu’r ardal am y 90 mlynedd diwethaf gan roi Gwerth Cymunedol sylweddol iddo.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

 

RDC/S/2/1932/92

1932 – Ailadeiladu Gwesty, Butchers Arms, Heol y Felin, Rhiwbeina – Pensaer: T Elvet Llewellyn – Datblygwr: George Beames Ysw

Cynlluniau a gweddluniau

 

RDC/S/2/1943/19

1943 – Addasiadau, Butchers Arms, Rhiwbeina – Pensaer: T Elvet Llewellyn – Datblygwr: George Beames a’i Feibion

Cynlluniau a Gweddluniau

 

DCONC/6/14a,b

1950-1955 Butchers Arms, Rhiwbeina – Cynlluniau o safle trwyddedig yng Nghaerdydd

Delweddau ychwanego

Drawing of the Butchers Arms, Rhiwbina, Cardiff

Cynllun yr hen adeilad, map 1901 yr AO

 

Early OS map

Lluniad 1932 gan T.E. Llewellyn

Lleoliad