Photo of the Black Griffin pub, Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

03 The Black Griffin

Dyddiad

1845 o leiaf

Cyfeiriad

Heol yr Eglwys, CF14 0SJ

Download site boundary plan.

Ward

Llys-faen a Ddraenen

Hanes

Saif y dafarn hon, yr honnir ei bod yn 400 mlwydd oed, gyferbyn ag Eglwys St Denys o’r 14eg ganrif yn Llys-faen a oedd unwaith yn bentrefan ar gyrion Caerdydd. Mae sôn bod Oliver Cromwell wedi aros yn Nhafarn y Griffin cyn Brwydr Sain Ffagan ym mis Mai 1648, ond mae’n fwy tebygol mai unig gysylltiad Cromwell â’r Dafarn yw ynglŷn â milwyr Byddin Model Cromwell. Roedd Cromwell, fodd bynnag, o dras Gymreig (ei enw iawn oedd Williams) a daeth ei hen dad-cu o’r ardal hon. 

 

Mae map degwm 1845 yn disgrifio’r adeilad fel ‘tyddyn’ (a oedd yn cael ei feddiannu gan Thomas Williams), er ei fod yn rhan o Dir y Black Griffin (wrth ymyl siop i’r de o’r eglwys ac amryw gaeau a phorfeydd), a’r tirfeddiannwr ar ei gyfer oedd Syr Charles Morgan y 3ydd Barwnig – perchennog Ystâd Tredegar.  

 

Mae cyfrifiad 1841 yn gliriach: mae Thomas Williams yn Dafarnwr chwe deg oed sy’n meddiannu’r ‘Griffin’ gyda’i wraig, ei ddau fab a’i ddwy ferch.  

Erbyn 1851 mae ‘Griffin’ yn cael ei feddiannu gan Thomas Williams, 32 oed, ‘ffermwr 35 erw’, ei wraig, tri o blant a gwas.  

Erbyn 1861, yr adeilad yw ‘Tafarn y Griffin’ a oedd yn cael ei feddiannu gan William Williams, tafarnwr 50 oed, ei wraig a’i dri gwas.  

Erbyn 1871 mae Tafarn y Griffin yn dal i gael ei feddiannu gan William Williams, tafarnwr a ffermwr 35 erw. Hefyd, ei wraig, ei nith (fel gwas cyffredinol) a gwas oedd yn gweithio ar y fferm.  

 

Mae tystiolaeth archifol yn dangos bod Tafarn y Griffin wedi cael ei haddasu eto ym 1901, cyn cael ei gwerthu gan Ystâd Tredegar ym 1920: 

 

Gwerthu Tai Trwyddedig Rhydd-ddaliadol (sy’n Ffurfio rhan o Ystâd Tredegar) y bydd Messrs Newland, Hunt a Williams (Dan gyfarwyddyd Ymddiriedolwyr Ystadau Sefydlog Tredegar a thrwy gyfarwyddyd Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Tredegar) yn cynnig Arwerthiant yng Ngwesty’r King’s Head, Casnewydd ar 24 – 26 Mehefin 1920. Eitem 6: Y Dafarn Rydd-ddaliadol Werthfawr Gwbl Drwyddedig a adwaenir fel y Black Griffin, cyfanswm o ryw 29 perc. Mae gan y safle drwydded chwe diwrnod, ac fe’i gosodir i Mrs Jane Williams ar denantiaeth gyda thir arall. Mae yna Ddegwm o 2d. Prynwyd y safle gan J. Williams (credir mai £1850 oedd y pris – Cymdeithas Hanes Llysfaen). 

 

Cynigiwyd ailadeiladu ‘Tafarn y Griffin, Llys-faen’ ym 1924 ar gyfer Joseph Trott Ysw. yn ôl dyluniadau gan y pensaer Sidney Williams.1 Nid ymgymerwyd â’r cynigion hyn ar gyfer estyniad Tudurbethaidd (gweler isod). 

 

Yn hytrach, ym 1932 cynigiwyd codi estyniad bach i gefn yr adeiladau cyfredol. Ar yr adeg honno, roedd y safle’n cynnwys yr hyn sy’n ymddangos fel yr adeiladau presennol. I’r de, ceir y dafarn gyfredol â chynllun tri bae gydag ystafell arlwy ganolog, ystafell gwrw i’r de a bar parlwr i’r gogledd. I’r cefn, ceir y gegin, y pantri a’r gegin gefn. Ysgubor a beudy oedd yr adeilad i’r gogledd. Gwnaed mân newidiadau i’r cynigion hyn yn y cefn a rhoddwyd Ystafell Glwb dros y pen amaethyddol.  

 

Gwnaed newidiadau pellach ym 1932 a 1938, i addasu llawr gwaelod rhan amaethyddol yr adeilad ymhellach (gan ychwanegu Ystafell De a Garej).  

 

Ar hyn o bryd nid yw’n glir i ba raddau y mae’r adeiladau ‘400 oed’ yn bresennol o fewn y safle presennol. 

 

 

 

1 Pensaer cynhyrchiol yng Nghaerdydd a gynlluniodd dafarn y Three Elms yn yr Eglwys Newydd, estyniadau i Ysbyty Glan Elái yn Sain Ffagan, Ysgol Fabanod yn Philog Road yn yr Eglwys Newydd, newidiadau i Fragdy Trelái a nifer o eiddo domestig ar draws y ddinas.  

Disgrifiad

Adeilad deulawr â rendrad gwyn sy’n cynnwys dau adeiledd a oedd ar wahân ar yr un adeg. Mae prif weddau tri bae anghymesur gan y ddau, sy’n nodi’n gryf eu bod wedi’u newid dros amser. Maent yn cynnwys toeau talcen ar oleddf bas a thoeau talcen llechi, gyda bondo pren dwfn a soffitiau estyll. Mae corn simnai i’r de. Mae dwy brif ran yr adeilad yn cynnwys ffenestri adeiniog plwm teiran a phetryal.  

 

Mae gan ran ddeheuol yr adeilad benty canolog i Faeau dau a thri, portsh i’r wedd ddwyreiniol (sy’n wynebu’r ffordd) gyda ffenestri plwm un cwarel sefydlog a drysau mynediad dwbl: gyda byrddau fertigol â ffiledi cymhwysol a strapiau addurnol, a ffenestri linter petryal plwm uwchben.  

 

Mae gan wedd ddwyreiniol yr adain ogleddol yr hyn a oedd unwaith, yn ôl pob tebyg, yn fynedfa i Fae 1 (gyda phortsh penty â bracedi drosti), sydd bellach wedi’i blocio’n rhannol ac wedi’i llenwi â ffenestr adeiniog sy’n agor o’r pen. Mae gan Faeau 2 a 3 ffenestri teiran, er bod llawr gwaelod Bae 3 yn llawer llai o ran maint.  

 

Ar y wedd ogleddol, mae grisiau maen yn arwain at ddrws llawr cyntaf o fewn y talcen, gan awgrymu’r hen ddefnydd amaethyddol ar gyfer yr adeilad gogleddol hwn.  

 

Mae nifer o fân estyniadau a chytyfiannau i’r cefn (wedi’u gosod o dan y prif un o ddau lawr) a ychwanegwyd yn ystod gwaith ailadeiladu ym 1924 ac yn ddiweddarach.  

Rheswm

Mae’n amlwg bod yr adeilad bach hwn, yr honnir ei fod yn dafarn ar y safle ers 400 mlynedd, yn weddol hen (er nad yw’n glir pryd yn union y’i codwyd yn wreiddiol). Gwerth Hanesyddol Mae’r ffaith ei fod yn dafarn ar y safle hwn am o leiaf 182 o flynyddoedd hefyd yn rhoi Gwerth Cymunedol sylweddol i’r safle.  

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg 

 

RDC/S/2/1901/39 Newidiadau i dafarn, Tafarn y Griffin, Llys-faen. 4 Medi 1901. Pensaer:  Anhysbys. Datblygwr:  Arglwydd Tredegar. Gweddluniau: Ie. Cynlluniau: 1 

 

RDC/S/2/1924/54 Ailadeiladu Tafarn y Griffin, Llys-faen. 1924. Pensaer:  Sidney Williams. Datblygwr:  Anhysbys. Gweddluniau: Ie. Cynlluniau: 3  

 

RDC/S/2/1932/7 Toiledau, Tafarn y Griffin, Llys-faen. 1932. Pensaer:  Anhysbys. Datblygwr:  Ely Brewery Co Ltd. Gweddluniau: Ie. Cynlluniau: Ie 

 

RDC/S/2/1932/59 Newidiadau, Tafarn y Griffin, Llys-faen. 1932. Pensaer:  Anhysbys. Datblygwr:  Ely Brewery. Gweddluniau: Ie. Cynlluniau: Ie 

 

RDC/S/2/1938/163 Newidiadau, Tafarn y Griffin, Llys-faen. 1938. Pensaer:  Anhysbys. Datblygwr:  Ely Brewery. Gweddluniau: Ie. Cynlluniau: Ie 

Delweddau ychwanego

 

Drawing of The Black Griffin, Cardiff

1938 – Gweddluniau gan T.H. Sparks 

Lleoliad