Photo of the former The Ty Pwll Coch pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

62 Tŷ Pwll Coch

Dyddiad

c.1860 neu'n gynharach.

Cyfeiriad

524 Heol Dd. y Bont-faen, Caerdydd CF5 1BN

Download site boundary plan.

Ward

Treganna

Hanes

Roedd Pwll-coch gynt yn bentrefan ar wahân yn Nhreganna, ar gyffordd Windway Road a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen. Y ‘Pwll Coch’ oedd yn bwll yn afon Elái, a elwid felly yn dilyn Brwydr Sain Ffagan (1648), pan redai’r afon yn goch yn ôl pob sôn gyda gwaed y Brenhinwyr Cymreig a laddwyd.

 

Mae’r adeilad presennol bellach yn meddiannu llain tŷ a oedd unwaith yn eiddo i John Jonas ac a nodwyd fel ‘Pwll Coch House and Garden’ ar raniad map degwm 1846. Mae’r map cysylltiedig yn dangos adeilad cynllun L yn llenwi’r gornel, gyda gerddi i’r cefn.

 

Ymddengys y diwygiwyd yr adeilad rhwng 1845 a 1881, ac mae’n debyg mai hwn oedd yr adeilad cyfredol a ddisgrifiwyd ym mis Chwefror 1871 fel ‘Tŷ Pwll Coch Mr Wiltshire’ (tafarn).1 Ar ôl i Wiltshire farw ym 1879, trosglwyddwyd ei drwydded i’w weddw, Lydia. Y flwyddyn ganlynol, roedd y fangre ar gael i’w gosod, ac fe’i disgrifiwyd fel a ganlyn:

 

‘… dros 20 mlynedd ym meddiant y diweddar George Wiltshire’ roedd y safle yn cynnwys ‘… bar da, parlwr, ystafell fwyta, ystafell ysmygu, ac ystafell gwrw, gyda chegin fawr a seler, ystafell glwb fawr, gyda 7 ystafell wely, a storfa, cwtsh glo ac adeiladau allanol, gyda gardd fach yn y cefn’.2

 

Yn ôl Lee (2004), ymhelaethwyd yr adeilad ym 1930 gyda chladin Tuduraidd ffug, fframiau drysau newydd, a ffenestr oriel i’w gorneli ffasedog, gyda thoeau talcennog uwchben.

 

Gwnaed newidiadau pellach (anhysbys ar hyn o bryd) ym 1949, er na chafwyd fawr o newid i gynllun yr adeilad rhwng mapiau 1915 a 1940 yr AO.

 

Wedi cau yn 2012 a’i droi’n fflatiau tua 2014, pan gollwyd ffenestri dalennog pren a thynnwyd llawer o’i fanylion cladin allanol (gweler 13/01216/DCO).

 

1The Cardiff Times, 11 Chwefror 1871

2South Wales Daily News, 14 Mai 1880

Disgrifiad

Adeilad trillawr yn bennaf o gynllun anghymesur sy’n meddiannu safle amlwg ar gyffordd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Windway Road.

 

Mae corneli ffasedog i dde-ddwyrain a de-orllewin yr adeilad yn cynnwys toeau talcennog blaenllaw wedi’u gosod uwchben ffenestri oriel deulawr, gyda phob un wedi’i haddurno â ffram bren ffug a ffurfiwyd o fewn y gorffeniad wedi’i rendro. Mae gan y llawr gwaelod i’r de-ddwyrain ffrâm ddrws colofn lawn a fewnlenwyd yn ddiweddarach gan ffenestr. Mae gan wedd dde-orllewinol y llawr gwaelod ffrâm ddrws hanner colofn, gyda’r drws i gerddwyr yn ei le o hyd.

 

Nawr gyda ffenestri adeiniog uPVC trwy’r adeilad. Mae’r wedd ddwyreiniol hir yn gostwng i dddau lawr ar hyd Windway Road. Yma, mae gweddillion olaf ei hen addurniad wedi goroesi fel platband grisiog wedi’i fowldio.

Rheswm

Hen dafarn mewn lleoliad amlwg sy’n gwneud defnydd da o’r safle cornel gyda chynllun anghymesur (sydd hefyd yn dangos llinell y ffordd cyn palmantu cornel y stryd).

 

Er bod yr adeilad wedi’i addasu, mae wedi cadw rhywfaint o Werth Esthetig a Hanesyddol.

 

Er ei fod bellach ar gau, mae hanes hir tafarn ar y safle hwn yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

BC/S/1/38874

  1. Newidiadau i’r Dafarn, Tafarn Tŷ Pwll Coch, Heol y Bont-faen.

 

BC/S/1/37769

  1. Arwydd, Gwesty Tŷ Pwll Coch, Heol y Bont-faen

 

DCONC/6/144a-l

1908-1962

Tafarn Tŷ-Pwll-Coch, Heol Orllewinol y Bont-faen

Delweddau ychwanego

Photo showing the Ty Pwll Coch pub Cardiff before c1930.

Cyn ac ar ôl c1930

Photo showing the Ty Pwll Coch pub Cardiff before c1930.

Undated photo of the Ty Pwll Coch pub Cardiff

Llun heb ei ddyddio

Lleoliad

Dweud eich dweud