Photo of the former The Grosvenor pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

61 The Grosvenor (gynt)

Dyddiad

1893

Cyfeiriad

19 South Park Road, Sblot, CF24 2LU

Download site boundary plan.

Ward

Sblot

Hanes

Yn ôl Cymdeithas Hanes y Rhath, agorwyd Gwesty’r Grosvenor ar South Park Road, Sblot ar gornel Moorland Road ym 1893 gan gau 115 mlynedd yn ddiweddarach (2008). Tarddiad yr enw Grosvenor o Grosvenor House, cartref yr Arglwydd Tredegar yn Llundain. Am flynyddoedd lawer dywedwyd ei fod yn un o’r tafarnau prysuraf yng Nghaerdydd, yn lle i weithwyr dur alw heibio’n rheolaidd ar eu ffordd adref ar ddiwedd eu shifft. Roedd gan y dafarn Brains fawr ale fowlio hir a pharot ar y silff uchaf yn y bar.

Ar fap 1901 yr AO (a ddiwygiwyd ym 1898-99), gwelir y gwesty newydd ei sefydlu, wedi’i osod ychydig y tu allan i gwrtil tyddyn Splott Farm ac yn erbyn ‘Ascelles Road’ newydd ei ffurfio (sydd bellach yn South Park Road). Mae maint yr adeilad yn llawer cliriach ym 1919, lle mae’r map yn dangos yr un ffurf gynllun ag y mae heddiw.

Ar ôl iddo gau yn 2008, cynigiwyd dymchwel yr adeilad (08/01759/E) a gwrthodwyd rhoi rhestriad llawn iddo gan Cadw.

Yn y pen draw, cafodd yr adeilad ei droi’n fflatiau (11/02004/DCI) ac fe’i gelwir bellach yn Grosvenor House.

Disgrifiad

Mae’r cyfan wedi’i adeiladu mewn brics coch gwasgedig Edwardaidd, gyda charreg nadd i’r plinthau, y llin-gyrsiau a’r ffenestri croeslathog/myliynau. Mae’r holl faeau’n cael eu gwahanu gan bilastrau brics, wedi’u hintegreiddio i’r llin-gyrsiau carreg.

Mae prif ran yr adeilad ar gynllun petryal (gyda chornel crwn) ac yn meddiannu safle amlwg ar gornel South Park Road a Moorland Road. Wedi’i adeiladu dros dri llawr, mae ganddo wedd tri bae i’r de a gwedd pedwar bae i’r dwyrain. Mae prif fynedfa i’r gornel gyda phen carreg hanner crws crand a chiliau paneli carreg. Ffenestri teiran sydd i’r llawr gwaelod, gyda phennau hanner crwn. Mae ffenestri’r llawr cyntaf a’r ail lawr yn bensgwar ac wedi’u paru, ac eithrio’r ffenestri pedair rhan i’r gornel grom a’r ffenestr fae oriel wedi’i gosod yn ganolog i’r de. To talcen slip â llechi artiffisial, gyda chorn simnai brics coch ar ei ben. Mae arwydd panel carreg i’r gornel nawr yn darllen ‘2013 – The Grosvenor House – 1893’.

Adain ddeulawr i’r gorllewin, sy’n wynebu South Park Road, mewn deunyddiau cydweddog. O bwys arbennig mae’r drws i’r bae mwyaf gorllewinol, gyda ffrâm garreg gywrain a phanel pediment sgrôl uwchben (gyda philastrau integredig yn cynnal y ffenestr uwchben).

Adain ddeulawr â thri bae i’r gogledd, gan wynebu Moorland Road wedi’i ffurfio o ddeunyddiau cydweddog.

Mae’r holl ffenestri a drysau gwreiddiol wedi’u colli, wedi’u disodli gan uPVC modern drwyddi draw.

Rheswm

Er bod y gwaith i’w addasu’n fflatiau wedi amharu arno, mae’r adeilad hwn yn cadw llawer o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol oherwydd ei faint, ei leoliad amlwg a’i ddefnydd cywrain o ddeunyddiau cain.

Mae rhywfaint o werth cymunedol yn deillio o’i ddefnydd blaenorol fel tafarn boblogaidd.

Cyfeirnodau

BC/S/1/45540

1955. Newidiadau ac Ychwanegiadau i’r Gwesty, Gwesty’r Grosvenor, Moorland Road

 

DCONC/6/62a-c

1955-1962

Cynlluniau o safleoedd trwyddedig. Gwesty’r Grosvenor, Y Sblot.

Delweddau ychwanego

Undated archive photo of the Grosvenor Hotel Cardiff

Lleoliad