Photo of the former The Bertram pub Cardiff

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

57 Gwesty’r Bertram (gynt)

Dyddiad

Rhoddwyd trwydded ym 1875.

Cyfeiriad

Heol Lydan, Adamsdown

Download site boundary plan.

Ward

Adamsdown

Hanes

Paratowyd cynlluniau o ‘The Bertram’ ar gyfer David Lewis ym 1874 (pensaer anhysbys), ar adeg pan oedd Heol Lydan yn cael ei hadnabod fel ‘Green Lane’.

Credir i’r fangre gael ei hadeiladu ym 1875 (Cymdeithas Hanes y Rhath), dyddiad y gellir ei gadarnhau gan y rhoddwyd ei thrwydded gyntaf ym mis Medi yr un flwyddyn.

Bu David Lewis, a oedd y Landlord am flynyddoedd lawer, hefyd yn ymgeisio’n llwyddiannus i fod yn Gynghorydd Tref ym 1877.

Ymddengys nad oes fawr ddim wedi newid yn allanol dros y blynyddoedd, nes i’r dafarn gael ei chau a’i haddasu’n 8 fflat yn 2013 (gweler 13/02206/DCI). Ar yr adeg honno, ail-wnaed adeiledd y to yn llwyr (gyda ffenestri to’n cael eu hychwanegu), ailadeiladwyd yr estyniad cefn (deheuol) mewn â gwaith blociau (a chodwyd ei do talcen slip) a chollwyd y ffenestri dalennog drwyddi draw.

Disgrifiad

Mae The Bertram mewn lleoliad amlwg ar gornel Heol Lydan a Bertram Street, gyda’r brif fynedfa gynt i’r gornel ffasedog.

Fe’i ffurfiwyd o garreg Pennant lanw gyda brics llwydfelyn i faeau deulawr, conglfeini, bandiau plethwaith ac agoriadau wedi’u trin (gyda phob un â meini clo anferth).

Mae’r wedd ogleddol (Heol Lydan) yn cynnwys tri bae anghymesur. Mae drws canolog gyda phen hanner crwn mesuredig (sydd bellach wedi’i gau i ffurfio ffenestr) yn cael ei ochri gan ddwy ffenestr fae ffasedog uchder dwbl. Mae’r ochr dde wedi’i ffurfio o dri llawr gyda thalcen yn cynnwys ffenestr lansed.

Agoriad drws wedi’i flocio yn y gornel (ogledd-orllewinol) ffasedog gyda ffenestr hir uwchben.

Mae’r wedd orllewinol (Bertram Street) yn gostwng o dri llawr ar y chwith gyda llawr llofft talcennog (gyda ffenestr lansed) i ddau lawr. Drws oddi ar y canol gyda bwa brics mesuredig. Ffenestri teiran i’r llawr gwaelod, ffenestri sengl uwchben.

Estyniad to talcen slip deulawr brics coch i’r cefn (de) wedi’i ddisodli yn 2014 gydag adeiledd gwaith blociau modern sydd bellach â thalcen i’r cefn.

To llechi artiffisial gyda ffenestri to. Cedwir y cyrn simneiau. Ffenestri adeiniog uPVC modern sy’n agor o’r pen.

Rheswm

Hen dafarn a adeiladwyd o ddeunyddiau ansawdd uchel sy’n dal i gadw llawer o’i Werth Esthetig cain, allanol. Gwerth Pensaernïol a Hanesyddol

Er ei bod ar gau, mae hanes hir tafarn ar y safle hwn yn rhoi rhywfaint o Werth Cymunedol i’r adeilad.

Cyfeirnodau

BC/S/1/7145

1888 – Draenio Gwesty’r Bertram, Gwesty’r Bertram, Heol Lydan

 

D122/10/1

Gwesty’r Bertam, Heol Lydan, Caerdydd, cytundebau, stocrestrau, cynlluniau

1902-1962

LBRO/S/1/407

1874

Gwesty arfaethedig, The Bertram, Green Lane

Datblygwr:  David Lewis

Math o Adeilad: Cyfleusterau Preswyl Cymunedol gan gynnwys Gwestai, Motelau a Hosteli

Gweddau: Gogledd

Delweddau ychwanego

1879 OS Map showing The Bertram Hotel Cardiff

Map 1879 yr AO

 

Mid C20 photo of the The Bertram Hotel Cardiff

The Bertram, canol yr 20fed ganrif

Lleoliad

Dweud eich dweud