The Albany Hotel

Mae’r rhestriad lleol arfaethedig yn ffurfio rhan o fersiwn ddrafft Rhestr adeiladau Caerdydd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol - Tafarndai, Gwestai a Chlybiau (presennol a chynt).

Cyfeirnod Adeilad

01 Gwesty’r Albany

Dyddiad

1895

Cyfeiriad

105 Donald St, CF24 4TL

Download site boundary plan.

Ward

Plasnewydd

Hanes

Rhwng 1880 a 1890 datblygwyd yr ardal o amgylch Heol y Plwca a Heol Richmond. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn Arabella Street, Donald Street ac Inverness Place ym 1884.

 

Ar fap 1886 yr AO, mae safle Glenroy Street wedi’i farcio gan lwybr troed gerllaw “cae Mr Shergolds” sy’n arwain at gyffordd Heol Albany gyda Heol Pen-y-lan, wrth ymyl Tafarn Claude.  Dechreuodd y gwaith adeiladu yn Angus Street, Diana Street ac Alfred Street ym 1891 ac yn y flwyddyn honno rhoddwyd Plasnewydd (a adwaenid hefyd yn Gastell y Rhath) a dwy erw o dir gan y teulu Mackintosh i drigolion lleol, at eu defnydd hamdden.  Roedd tai yn Keppoch Street yn gwerthu am £136 yr un ym 1892.1.

 

Er bod cais wedi cael ei wrthod ddeuddeg mis ynghynt, rhoddwyd trwydded ar gyfer Gwesty’r Albany ym 1895, yr un flwyddyn y cwblhawyd ei adeiladu yn ôl pob tebyg (gweler yr arwydd dros y fynedfa). Cafodd ei adeiladu gan yr adeiladwr George Beames (o 16 Violet Row, Caerdydd) ac ef oedd yn berchen arno.2 Costiodd yr adeilad fwy na £3,000. Er nad ‘tafarn glwm’ ydoedd yn wreiddiol, mae ffenestri lliw yn dynodi perchnogaeth ddiweddarach gan S.A. Brain. Roedd Beames yn dal i fod yn landlord ym 1903.

 

Nid oes llawer o dystiolaeth archifol i nodi newid ond, ar ryw adeg, diwygiwyd cynllun y llawr gwaelod (gweler drysau wedi’u blocio) a chollwyd cyfres o ffenestri dormer yn yr atig.

 

1 Gweler: Gwefan Cymdeithas Hanes Lleol y Rhath.

2 Roedd Beames, yn ddiweddarach o 70 Heol Albany, yn adeiladwr cynhyrchiol o Gaerdydd, a oedd hefyd yn gyfrifol am Westy’r Corporation yn Nhreganna (1889), yr estyniad i Eglwys Llanisien (ar gyfer Blessley) ym 1908 ac Eglwys Fethodistaidd Trelái (1911). Mae’n debygol yr adeiladwyd y New Inn, Heol Caerffili gan ei fab (1930).

Disgrifiad

Codwyd yr adeilad hwn ym 1895 (gweler yr arwydd dros y fynedfa) fel adeilad llain gornel trillawr gyda phrif fynedfa i’r gornel ffasedog gyda dwy adain gyfochrog ddeulawr yn troi i’r gorllewin, y mae un ohonynt yn wynebu Dalcross Street.

 

Wedi’i orchuddio â thoeau llechi talcen slip drwyddi draw, roedd prif ran (y rhan fwyaf dwyreiniol) yr adeilad yn debygol o gynnwys ffenestri dormer carreg talcennog ar oleddf i’r ail lawr (fel gyda rhif 103 Donald Street) sydd, ar ryw adeg, wedi’u colli.

 

Mae’r adeilad wedi’i ffurfio o dywodfaen Pennant llanw, wedi’i addurno’n helaeth â charreg nadd. Mae fframiau carreg ofolo gyda siamffrau stop-fowldio i’r ffenestri a’r drysau. Ar ben y llawr gwaelod mae goruwchadail carreg (gyda ffrîs plaen) a gynhelir gan bilastrau rhychiog gyda chapanau colofnau. Mae gan y llawr cyntaf bilastrau rhychiog sy’n cynnal llin-gwrs carreg wedi’i integreiddio i bennau’r ffenestri. Mae drysau pren pedwar panel wedi’u codi (gyda ffenestri linter uwch eu pennau) wedi’u gorchuddio gan gapanau carreg nadd cylchrannol, wedi’u cynnal gan gonsolau sgrôl rhychiog. Mae ffenestri’r llawr gwaelod yn ffenestri dalennog llithro pren gyda chwarelau plwm petryal a phaneli gwydr lliw. Mae ffenestri’r llawr cyntaf yn ffenestri dalennog llithro pren plaen un-dros-un.

 

Mae gan y wedd ddwyreiniol (sy’n wynebu Donald Street) ddau ddrws (yr un chwith wedi’i flocio) a 4 ffenestr ddalennog bâr i bob llawr. Mae arwydd carreg cerfiedig ar lefel y llawr cyntaf. Mae’r gornel ffasedog yn cynnwys y brif fynedfa gyda drysau pren dwbl. Uwchben mae ffenestr oriel fartisan garreg gorbelog gyda thair ffenestr ddalennog gul a goruwchadail wedi’u mowldio sydd wedi’u hintegreiddio i’r llin-gwrs uchaf. Uwchlaw hon, mae arwydd panel carreg (gyda llythrennau modern). Mae gwedd ogleddol y brif ran drillawr yn cynnwys 4 ffenestr ddalennog bâr i’r llawr gwaelod (gyda phaneli gwydr lliw) ac un drws wedi’i flocio i’r ochr dde. Mae gan y llawr cyntaf chwe ffenestr ddalennog bâr gyda gwydr plaen.

 

Mae gan yr adain ddeulawr i’r gorllewin ddrws wedi’i flocio ar y chwith. Mae drws a ffenestr a addaswyd yn ddiweddarach ar y dde wedi’u paru a’u gorchuddio â chapan cylchrannol. Mae’r llawr cyntaf yn cynnwys 4 ffenestr ddalennog bâr, gyda phâr bach arall uwchben y drws ar y chwith (gydag un yn cynnwys lwfer echdynnu). Mae’r wedd yn cael ei thorri gan ‘ymwthiad’ bach (yn debygol o fod yn gorn simnai sydd bellach wedi’i leihau i lefel y to) ac mae’r landar (cafn y bargod) yn cael ei gynnal gan gorbelau carreg.

 

Yn ddiweddarach, mae estyniadau unllawr i’r gorllewin yn cynnwys to talcen slip, ffenestri modern a manylion brics llwydfelyn ar y tu blaen ac adeiledd to gwastad (ale fowlio?) i’r cefn.

 

Mae’r hen gerbyty (a ddangosir yng nghynllun yr AO o 1915) wedi cael ei newid yn fawr.

Rheswm

Tafarn wedi’i haddurno’n helaeth a adeiladwyd yn bwrpasol mewn lleoliad amlwg. Gwerth Esthetig a Hanesyddol Sylweddol. Mae 127 mlynedd o ddefnydd parhaus hefyd yn rhoi Gwerth Cymunedol cryf.

Cyfeirnodau

Archifau Morgannwg

DCONC/6/2a-e 1924-1959 Gwesty’r Albany, Donald Street – Cynlluniau Posibl

Delweddau ychwanego

Map: Glamorgan XLIII.11 Revised 1915, Published 1920

Glamorgan XLIII.11 Diwygiwyd 1915, Cyhoeddwyd 1920

Lleoliad

Dweud eich dweud