Ymgynghorodd y Cyngor ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl Newydd yn 2023. Y cam nesaf wrth baratoi’r cynllun yw’r Cynllun Adneuo sef fersiwn ddrafft lawn y cynllun.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru o ran paratoi CDLlau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu seilio ar sylfaen dystiolaeth gadarn a chyfredol a bod asesiadau amrywiol yn gefn i’r cynllun. O ystyried hyn, mae’n bwysig bod y Cynllun Adneuo yn cael ei lywio gan y dystiolaeth ddiweddaraf a bod y gwahanol asesiadau yn cael eu cwblhau a’u hystyried yn llawn. Mae’r gofyniad hwn hefyd yn “brawf cadernid” a fydd yn cael ei ystyried gan Arolygydd penodedig yn ystod archwiliad annibynnol o’r cynllun.
Er mwyn rhoi digon o amser i ystyried y materion hyn yn llawn, bydd y Cynllun Adneuo nawr yn cael ei ystyried gan y Cabinet a’r Cyngor yn hwyrach na’r disgwyl yn 2024, gydag ymgynghoriad yn debygol o yn gynnar yn 2025. Mae’r dyddiadau arfaethedig ar gyfer yr amserlen ddiwygiedig wedi’u nodi isod:
- Ymgynghori ar y Cynllun Adneuo – Ionawr i Fawrth 2025
- Archwilio – Medi 2025 i Fawrth 2026
- Mabwysiadu – Ebrill 2026